Mae Media Academy Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n darparu dewis amgen i addysg brif ffrwd i fyfyrwyr 16-25, cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial.
Mae cyrsiau wedi’u cynllunio i gynorthwyo pobl nad ydynt yn gallu cael mynediad at gyfleoedd tebyg mewn mannau eraill, sydd mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol neu nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.
Meddai Sarah, Cyfarwyddwr Dysgu Achrededig yn Media Academy Cymru,: “Mae addysg yn MAC yn ymwneud â rhoi cyfleoedd i’n pobl ifanc gyflawni eu potensial. Mae pawb yn dysgu yn eu ffordd eu hunain, ac mae ganddynt eu cryfderau, eu sgiliau, eu profiad a’u hoffterau eu hunain. Ym Media Academy Cymru, rydym yn ymdrechu i gael gwared â rhwystrau a chynnig gofod diogel, cefnogol a chynhwysol i ddysgwyr feithrin sgiliau sy’n golygu rhywbeth iddyn nhw mewn pynciau sydd o ddiddordeb iddyn nhw.”
“Amcanion cyrsiau Media Academy Cymru yw cynorthwyo plant a phobl ifanc i barhau ag addysg a hyfforddiant a sicrhau eu bod yn cael eu cynorthwyo i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, digidol a chyflogadwyedd trwy raglen gymorth sensitif sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr unigol a’u hanghenion. “
Mae pob cwrs yn rhad ac am ddim, ac yn cynnwys cyrsiau blwyddyn o hyd neu gyrsiau byrrach, dan yr enw MAC on Track. Mae’r cyrsiau’n canolbwyntio ar ysbrydoli creadigrwydd, gan gynorthwyo dysgwyr i ddilyn sgiliau y maent yn angerddol amdanynt gan gynnwys ffotograffiaeth, gwneud ffilmiau a dylunio gemau.
Dysgwyr yn gallu ennill cymwysterau cydnabyddedig wrth ddatblygu hefyd sgiliau cymdeithasol a chyflogadwyedd trwy raglen gymorth sensitif sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr unigol a’u hanghenion. Mewn partneriaeth â Choleg Caerdydd a’r Fro, mae gan ddysgwyr sy’n cwblhau cwrs hefyd opsiwn i barhau i addysg bellach.
Adborth gan ddysgwyr:
“Maen nhw (yr athrawon) wedi bod yn gyfeillgar iawn, ac nid yw wedi teimlo’n rhy ffurfiol nac fel ysgol… Mae wedi teimlo’n gefnogol a chyfeillgar.”
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
Mae Prosiect Ymgysylltu Addysg nctid Caerdydd yn cefnogi plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref a'u teuluoedd i gael gafael ar gymorth, cyngor ac arweiniad i atal achosion o gamfanteisio a materion diogelwch a llesiant eraill.
Gweld StoriCaniatáu i fechgyn a dynion ifanc gael lle diogel i herio'r normau a'r naratifau sy'n cael effaith ar eu bywydau.
Gweld Stori