Rhaglen a ddarperir gan Media Academy Cymru yw Dewisiadau Dewrach sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc sy'n defnyddio arfau neu sydd mewn perygl o wneud hynny.
Bydd gweithiwr ieuenctid yn datblygu cyfres o hyd at 20 sesiwn ar gyfer y plentyn neu berson ifanc, yn dibynnu ar eu hanghenion unigol. Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio i helpu i herio’r naratif ar droseddau cyllyll a chario arfau, gan rymuso’r plentyn neu berson ifanc i greu hunaniaeth gadarnhaol a gwneud dewisiadau bywyd cadarnhaol.
Meddai Emily Powell, Gweithiwr Ieuenctid: “Mae llawer o bobl ifanc wedi datgan bod ganddyn nhw ddiffyg gwybodaeth am gyfreithiau troseddau cyllyll ac arfau gan nad yw’n cael ei drafod mewn ysgolion ac yn aml yn cael ei weld yn bwnc tabŵ. Mae’r ymyriad yn bwysig i godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo pobl ifanc i symud oddi wrth gario arfau a bod yn fwy ymwybodol o’r risgiau sy’n gysylltiedig ag ef.”
“Rwy’n sylweddoli erbyn hyn, nid yw’n werth y drafferth. Roeddwn i’n meddwl fy mod i’n amddiffyn fy hun ond mewn gwirionedd roeddwn i’n ei gwneud hi’n fwy tebygol y byddwn i a fy ffrindiau’n cael ein brifo.”
Bachgen 15 oed sydd wedi cymryd rhan yn y Rhaglen
Mae Prosiect Ymgysylltu Addysg nctid Caerdydd yn cefnogi plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref a'u teuluoedd i gael gafael ar gymorth, cyngor ac arweiniad i atal achosion o gamfanteisio a materion diogelwch a llesiant eraill.
Gweld StoriCaniatáu i fechgyn a dynion ifanc gael lle diogel i herio'r normau a'r naratifau sy'n cael effaith ar eu bywydau.
Gweld Stori