Lawrlwythwch y llawlyfr

Grŵp Bechgyn YMCA Caerdydd

Caniatáu i fechgyn a dynion ifanc gael lle diogel i herio'r normau a'r naratifau sy'n cael effaith ar eu bywydau.

  • Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt
  • Ysgolion ac addysg Ysgolion ac addysg

Mae Grŵp Bechgyn YMCA Caerdydd yn brosiect 10 sesiwn i fechgyn a’r rheini sy’n nodi eu bod yn fechgyn, sy’n byw yng Nghaerdydd, rhwng 13-17 oed. Mae’r rhaglen yn anelu at ddarparu lle diogel i fechgyn archwilio materion sy’n effeithio arnynt ac i sicrhau eu bod yn cefnogi ei gilydd ac eraill mewn cymdeithas. Mae’r sesiynau’n cynnwys gweithgareddau llawn hwyl a gwybodaeth, a yn rhyngweithiol i archwilio pynciau megis iechyd meddwl, troseddau’n ymwneud â chyllyll, gwrywdod gwenwynig a chasineb at fenywod, a pherthnasoedd iach, yn ogystal â chael cyfle i ennill gwobrau ar hyd y ffordd!

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwaith grŵp wyneb yn wyneb yn ein canolfan gymunedol YMCA Plasnewydd, sydd wedi’i lleoli oddi ar Heol y Plwca (City Road) yng nghanol Caerdydd, a fydd yn cael ei gynnal ar draws 10 sesiwn. Pwrpas y rhaglen yw caniatáu i fechgyn a dynion ifanc gael lle diogel i archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn wryw ifanc sy’n tyfu i fyny yng Nghaerdydd, ac i herio’r normau a’r naratifau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Drwy gyflwyno’r rhaglen hon rydym wedi dysgu a deall yr heriau sy’n wynebu bechgyn a dynion ifanc mewn cymdeithas gan gynnwys materion gyda pherthnasoedd, cydsynio, disgwyliadau cymdeithasol, a phersbectifau ar iechyd meddwl. Rydym hefyd wedi dysgu er bod bechgyn ifanc yn gallu cael eu difrïo gan y gymdeithas o ganlyniad i stereoteipiau, maent hefyd yn dioddef ac yn teimlo ar goll heb le i droi, sy’n atgyfnerthu’r angen am y gwaith pwysig hwn. Mae’r rhaglen hon yn arbennig o bwysig mewn cymdeithas lle nad yw merched yn teimlo’n ddiogel, ac yn darparu tystiolaeth ystyrlon o’r angen i weithio gyda bechgyn a merched i fynd i’r afael ag annhegwch a chasineb at ferched ac i ddeall problemau pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl heddiw.

I gyfeirio at y rhaglen hon, cysylltwch â megan.gwilliam@ymcacardiff.wales neu Elizabeth.bacon@ymcacardiff.wales am ragor o wybodaeth.

Straeon eraill

Gweld popeth
  • Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt
  • Amgylcheddau cymunedol diogel Amgylcheddau cymunedol diogel

Prosiect ymgysylltu addysg ddewisol yn y cartref – Caerau a Threlái

Mae Prosiect Ymgysylltu Addysg nctid Caerdydd yn cefnogi plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref a'u teuluoedd i gael gafael ar gymorth, cyngor ac arweiniad i atal achosion o gamfanteisio a materion diogelwch a llesiant eraill.

Gweld Stori
  • Normau a gwerthoedd cymdeithasol Normau a gwerthoedd cymdeithasol

SafeToSay – Grymuso Gwylwyr yn erbyn Aflonyddu

Mae #SafeToSay yn ymgyrch a ddatblygwyd gan Uned Atal Trais Cymru, mewn partneriaeth â’r Ymgyrch Noson Allan Dda, sydd â’r nod o wneud bywyd nos yn fwy diogel drwy annog pobl i sefyll yn erbyn aflonyddu rhywiol yn ne Cymru.

Gweld Stori