Mae Darpariaeth Ieuenctid Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru Gyfan yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a’u bod yn cael y cymorth a’r addysg gywir i’w helpu i wneud penderfyniadau cadarnhaol.
Mae Darpariaeth Ieuenctid Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru Gyfan yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a’u bod yn cael y cymorth a’r addysg gywir i’w helpu i wneud penderfyniadau cadarnhaol.
Mae ein Gwasanaeth Tân ac Achub chwarae rhan bwysig mewn cyfrannu at les plant a phobl ifanc drwy gyflawni prosiectau ymyrraeth gynnar a thrwy ddarparu addysg berthnasol am bwysigrwydd diogelwch tân, canlyniadau tanau bwriadol, galwadau ffug ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rydym yn gwneud hyn drwy ein prosiectau amrywiol gan gynnwys Prosiect Myfyrio (Troseddau a Chanlyniadau), Prosiect Phoenix, Cynllun Ymyrraeth Cynnau Tân a Chadetiaid Tân.
Mae ein Hymladdwyr Tân yn ddelfryd ymddwyn cadarn sy’n ysbrydoli ac yn dylanwadu’n gadarnhaol ar bobl ifanc, a nod ein holl ymyriadau yw cynyddu hyder, hydwythdedd a hunan-barch ymhlith pobl ifanc gyda’r bwriad o wella eu sgiliau rhyngbersonol a galwedigaethol a hefyd ddarparu ymdeimlad o gyfeiriad, hunan-barch a sgiliau bywyd.
Mae pob un o’n hymyriadau’n bodloni amcanion penodol ac maent yn cael eu darparu yn unol â ‘Strategaeth Awdurdodau Tân ac Achub ar gyfer Plant a Phobl Ifanc’ Llywodraeth Cymru.
Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth:
Caniatáu i fechgyn a dynion ifanc gael lle diogel i herio'r normau a'r naratifau sy'n cael effaith ar eu bywydau.
Gweld StoriMae #SafeToSay yn ymgyrch a ddatblygwyd gan Uned Atal Trais Cymru, mewn partneriaeth â’r Ymgyrch Noson Allan Dda, sydd â’r nod o wneud bywyd nos yn fwy diogel drwy annog pobl i sefyll yn erbyn aflonyddu rhywiol yn ne Cymru.
Gweld Stori