Lawrlwythwch y llawlyfr

Theori newid

Nod yn y pen draw: Cymru heb drais

Mae gwerthuso yn allweddol i gymryd iechyd y cyhoedd, ac felly mae'r Fframwaith hefyd yn cynnwys theori newid enghreifftiol ar gyfer pob un o'r naw strategaeth, sy'n dangos sut y bydd newid cadarnhaol yn digwydd os caiff y strategaeth ei gweithredu'n effeithiol.

Teuluoedd, rhianta a’r blynyddoedd cynnar Teuluoedd, rhianta a’r blynyddoedd cynnar

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y teuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau a rhaglenni cymorth blynyddoedd cynnar

CanlyniadauCanlyniadau

Mae teuluoedd yn darparu amgylcheddau gofalgar meithringar

Gwell iechyd a lles teuluol

EffaithEffaith

Mae plant a theuluoedd yn gallu ffynnu, gan ddechrau cyn i blentyn gael ei eni

Mae perthnasoedd iach yn cael eu ffurfio rhwng rhieni/gofalwyr a phlant

Mae plant a theuluoedd yn ddiogel

Nid yw plant bellach yn cael eu cosbi'n gorfforol

Rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant Rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y plant a phobl ifanc mewn rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant

CanlyniadauCanlyniadau

Gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

Mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth ystyrlon, gan gynnwys mentora

EffaithEffaith

Mae plant a phobl ifanc mewn cyflogaeth neu hyfforddiant ystyrlon ac mae ganddynt lwybr gyrfa a chyfleoedd cyfartal ar gyfer eu dyfodol

Nodi a chymorth cynnar Nodi a chymorth cynnar

AllbynnauAllbynnau

Nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael mynediad at gymorth diogel, priodol ac amserol – gan gynnwys ymyriadau therapiwtig arbenigol a gwasanaethau iechyd meddwl – ar gyfer unrhyw drais neu drawma y maent wedi’i brofi neu’n pryderu yn ei gylch

CanlyniadauCanlyniadau

Mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad at wasanaethau cymorth sy'n ystyriol o drawma

Mae ganddynt fynediad at wasanaethau ar y cyfle cyntaf

Maent yn profi cyfnod pontio di-dor rhwng gwasanaethau plant a gwasanaethau oedolion

EffaithEffaith

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn cael eu hatal

Mae gan blant a phobl ifanc well iechyd meddwl a llai o orbryder, ofn ac iselder

Maent yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i'w hatal rhag ymwneud â thrais

Gostyngiad yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu derbyn i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys ag anafiadau yn ymwneud ag ymosodiad

Amgylcheddau cymunedol diogel Amgylcheddau cymunedol diogel

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y plant a phobl ifanc sy’n cael mynediad i fannau hamdden diogel yn eu cymunedau (ar-lein ac all-lein)

CanlyniadauCanlyniadau

Darparu amgylcheddau cymunedol amddiffynnol lle gall plant a phobl ifanc ffynnu a datblygu

Mae aelodau’r gymuned yn cael mwy o gyfleoedd i gefnogi, a meithrin perthnasoedd cadarnhaol â phlant a phobl ifanc

EffaithEffaith

Mae plant a phobl ifanc yn teimlo ymdeimlad o berthyn o fewn eu cymunedau

Mae polisïau cynllunio yn darparu mannau fforddiadwy, diogel a hygyrch i blant a phobl ifanc

Mae plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein ac all-lein

Mae trais o fewn amgylcheddau cymunedol yn cael ei atal

Ysgolion ac addysg Ysgolion ac addysg

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio rhaglenni atal trais mewn lleoliadau addysg

Cyfran y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio gwasanaethau addysg, wedi'u gwella ar gyfer trawma

Cyfran y gweithwyr addysg proffesiynol sydd wedi derbyn hyfforddiant diogelwch ar-lein

Cyfraddau gwahardd o'r ysgol

CanlyniadauCanlyniadau

Mae normau cymdeithasol sy'n amddiffyn rhag trais yn cael eu hyrwyddo a normau cymdeithasol negyddol yn cael eu herio

Mae rhieni, staff addysg, gwasanaethau arbenigol a'r gymuned ehangach yn cymryd rhan mewn rhaglenni atal trais

Mae atal trais wedi’i wreiddio yn y cwricwlwm ac mewn ymagweddau ysgol gyfan at iechyd a lles

EffaithEffaith

cy Mae plant a phobl ifanc wedi gwella cyrhaeddiad addysgol, ymgysylltu a phrofiad

Mae ganddynt sgiliau bywyd gwell, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â chyfathrebu, rheolaeth emosiynol, datrys problemau, meddwl yn feirniadol a datrys gwrthdaro

Mae trais yn yr ysgol a lleoliadau addysg yn cael ei atal

Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y plant a phobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau tu allan i'r ysgol/addysg

CanlyniadauCanlyniadau

Mae plant a phobl ifanc yn gallu gwneud dewisiadau ymddygiadol cadarnhaol ac yn cael eu cefnogi gan oedolion y gallant ddibynnu arnynt

EffaithEffaith

Mae gan blant a phobl ifanc oedolion y gallant ymddiried ynddynt ac edrych i fyny atynt fel modelau rôl yn eu cymuned

Mae gan blant a phobl ifanc gyfleoedd bywyd gwell

Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y plant a phobl ifanc sydd â mynediad at safonau byw sylfaenol (bwyd, tai, cynhesrwydd, ac ati)

Cyfran y bobl â nodweddion gwarchodedig mewn cyflogaeth deg ac ystyrlon

CanlyniadauCanlyniadau

Mae plant a phobl ifanc yn cael mynediad teg at fwyd, tai o safon a chynhesrwydd

Mae gan deuluoedd lwybrau clir allan o dlodi

Mae normau cymdeithasol annheg sy'n gwahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol o blant a phobl ifanc ac yn annog trais yn cael eu herio a'u terfynu

EffaithEffaith

Gostyngiad mewn tlodi plant ledled Cymru

Gostyngiad mewn camfanteisio, niwed, esgeulustod a cham-dri ymhlith plant a phobl ifanc

Gostyngiad mewn bwlio, aflonyddu, troseddau casineb, camfanteisio a thrais ar sail rhywedd

Dileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ethnigrwydd ac anabledd

Polisi a deddfwriaeth Polisi a deddfwriaeth

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y polisïau a deddfwriaeth sy'n hyrwyddo hawliau plant

Cyfran y polisïau a deddfwriaeth sy'n cynnwys atal trais

Lefelau cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a’r DU ar gyfer atal trais

CanlyniadauCanlyniadau

Mae hawliau plant wedi'u gwreiddio mewn polisi a deddfwriaeth

Mae polisi a deddfwriaeth yn darparu fframwaith trosfwaol ar gyfer atal trais, amddiffyn yn ei erbyn, ymateb iddo a chymorth

EffaithEffaith

Mae lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys mewn materion sy'n effeithio arnynt

Mae plant a phobl ifanc yn ddiogel, yn hapus, yn iach, yn gallu chwarae a chael addysg

Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, gwydn, iachach a chyfrifol yn fyd-eang

Normau a gwerthoedd cymdeithasol Normau a gwerthoedd cymdeithasol

AllbynnauAllbynnau

Cyfran y plant a phobl ifanc sydd â mynediad at raglenni normau cymdeithasol sy’n herio normau cymdeithasol annheg ac uwchsgilio gwylwyr i atal trais

Cyfran y bobl sy'n agored i ymgyrchoedd marchnata cymdeithasol i herio normau a gwerthoedd cymdeithasol negyddol

CanlyniadauCanlyniadau

Hyrwyddir normau cymdeithasol teg sy'n amddiffyn rhag trais

Hyrwyddir ymatebion rhag-gymdeithasol gan wylwyr i agweddau a chredoau sy'n cefnogi trais

Gall plant a phobl ifanc ddatgelu trais neu geisio cymorth ar gyfer trawma ac adfyd y maent wedi'i brofi

EffaithEffaith

Normau a gwerthoedd cymdeithasol cryfach sy’n cefnogi perthnasoedd di-drais, parchus, meithringar, cadarnhaol a theg rhwng y rhywiau ar gyfer plant a phobl ifanc

Ledled Cymru, mae normau teg o ran rhywedd, grym, hil, ethnigrwydd, rhywioldeb