Lawrlwythwch y llawlyfr

Trosolwg

Er mwyn atal trais ymhlith plant a phobl ifanc mae angen camau ar y cyd a chydlynol.

Mae’r Fframwaith Cymru Heb Drais yn amlinellu’r prif elfennau sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc trwy ymagwedd iechyd cyhoeddus, system gyfan.

Mae’n hollbwysig fod dulliau lleol o atal trais yn cael eu tanategu gan yr egwyddorion atal trais sydd wedi’u nodi gan blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ledled Cymru:

Cydnabod bod modd atal trais

Mae trais yn fater iechyd cyhoeddus. Mae hynny’n golygu y gellir ei atal cyn iddo ddigwydd ac ymateb yn fwy diogel ac effeithiol pan fydd yn digwydd i gyfyngu ar niwed yn y dyfodol.

Adeiladu partneriaethau ar gyfer atal

Mae atal yn fusnes i bawb. Mae cyfrifoldeb ar y cyd i greu newid systemig i atal trais ac amddiffyn y bobl a’r cymunedau mwyaf agored i niwed yng Nghymru. 

Cyd-gynhyrchu’r atebion

Mae hyn yn caniatáu i leisiau plant a phobl ifanc gael eu clywed mewn materion sy’n effeithio arnynt. Mae tystiolaeth hefyd yn dweud wrthym fod ymyriadau a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chymunedau yn llawer mwy effeithiol.

Cynnal hawliau plant

Mae hyn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel, na wahaniaethir yn eu herbyn a bod ganddynt yr hyn sydd ei angen arnynt i oroesi a datblygu, ymhlith mesurau diogelu eraill.

Cymryd ymagwedd sy’n ystyriol o drawma

Mae hyn yn golygu bod unigolion, teuluoedd, cymunedau, sefydliadau a systemau yn ystyried adfyd a thrawma a allai effeithio ar rywun. Mae’n ymwneud â chydnabod a chefnogi eu cryfderau i oresgyn y profiad hwn.

Defnyddio lens croestoriadol

Mae’n rhaid i waith atal trais fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau lluosog a chyferbyniol sy’n llywio’r cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol y mae’n digwydd ynddo.

Integreiddio data amlasiantaethol i wneud penderfyniadau

Mae defnyddio’r data hwn i ddeall patrymau a thueddiadau mewn trais – tra’n sefydlu cytundebau rhannu data cadarn – yn sicrhau bod ymdrechion atal yn cael eu targedu lle mae eu hangen fwyaf.

Cymryd ymagwedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth

Dylid gwerthuso rhaglenni i ddeall eu proses weithredu a’u heffaith, gan rannu unrhyw ganfyddiadau i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer atal trais.

Bod yn rhagweithiol wrth gynnwys cymunedau

Mae’n bwysig ymgysylltu â phobl lle y maent, gan sicrhau bod gwaith yn cael ei lywio’n ddiwylliannol drwy gynnwys cymunedau cyfan wrth atal trais.

Cymru Heb Drais
Line 1 Line 2 Line 3 Line 4