Mae Llawlyfr Cymru Heb Drais yn cynnwys y Fframwaith llawn, sy’n gosod y sylfaen ar gyfer gweithredu amlasiantaethol. Bwriad y Fframwaith yw cynorthwyo partneriaid yng Nghymru i sicrhau bod amser, arian ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu gwario ar weithredu strategaethau a gweithgareddau sy’n atal trais ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae’r llawlyfr hwn wedi cael ei greu i gynorthwyo ardaloedd lleol yng Nghymru i gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol newydd. Ond mae hefyd wedi’i fwriadu ar gyfer pawb sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac sydd am archwilio’r dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio i atal trais – a cheisio arweiniad ar sut i roi hyn ar waith.
Gyda hyn, rydym hefyd am roi’r sgiliau i blant a phobl ifanc – a meithrin yr ymddygiadau – sydd eu hangen arnynt i fyw’n rhydd rhag trais.
Mae Llawlyfr Cymru Heb Drais yn cynnwys y Fframwaith llawn, sy'n gosod y sylfaen ar gyfer gweithredu amlasiantaethol. Bwriad y Fframwaith yw cynorthwyo partneriaid yng Nghymru i sicrhau bod amser, arian ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu gwario ar weithredu strategaethau a gweithgareddau sy'n atal trais ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae Prosiect Ymgysylltu Addysg nctid Caerdydd yn cefnogi plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref a'u teuluoedd i gael gafael ar gymorth, cyngor ac arweiniad i atal achosion o gamfanteisio a materion diogelwch a llesiant eraill.
Gweld StoriCaniatáu i fechgyn a dynion ifanc gael lle diogel i herio'r normau a'r naratifau sy'n cael effaith ar eu bywydau.
Gweld StoriMae #SafeToSay yn ymgyrch a ddatblygwyd gan Uned Atal Trais Cymru, mewn partneriaeth â’r Ymgyrch Noson Allan Dda, sydd â’r nod o wneud bywyd nos yn fwy diogel drwy annog pobl i sefyll yn erbyn aflonyddu rhywiol yn ne Cymru.
Gweld StoriMae Darpariaeth Ieuenctid Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru Gyfan yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a’u bod yn cael y cymorth a’r addysg gywir i’w helpu i wneud penderfyniadau cadarnhaol.
Mae Media Academy Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau sy'n darparu dewis amgen i addysg brif ffrwd i fyfyrwyr 16-25, cefnogi plant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial.
Rhaglen a ddarperir gan Media Academy Cymru yw Dewisiadau Dewrach sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc sy'n defnyddio arfau neu sydd mewn perygl o wneud hynny.