Lawrlwythwch y llawlyfr

Y naw strategaeth

Y naw strategaeth

Gallwch ddarllen rhagor am bob strategaeth trwy glicio ar y penawdau isod, ac mae'r ddamcaniaeth newid yn dangos y canlyniadau a'r effeithiau allweddol a ddisgwylir os gweithredir pob strategaeth yn effeithiol.

Teuluoedd, rhianta a’r blynyddoedd cynnar

Mae darparu amgylchedd cartref diogel, sicr a sefydlog yn lleihau’r risg o brofi trais yn ystod plentyndod, llencyndod ac i fod yn oedolyn.

Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar gefnogi rhieni a gofalwyr fel y gallant wneud hynny. Mae’n ymwneud â helpu teuluoedd a phlant i feithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol – tra hefyd yn sicrhau bod plant yn cael addysg blynyddoedd cynnar a chyn-ysgol o safon.

Gallai hyn gynnwys rhaglenni sy’n:

  • cynnig gofal plant fforddiadwy a hygyrch
  • galluogi mynediad i dai diogel a sicr
  • darparu cymorth ymarferol fel rheoli cyllid neu ddod o hyd i wasanaethau iechyd meddwl.

Bydd amgylcheddau teuluol cadarnhaol yn rhoi ‘lle diogel i blant a phobl ifanc siarad a chyfathrebu’.

Rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant

Rhaglenni cyflogaeth a hyfforddiant Gall cyflogaeth sicr, a’r hunan-barch uchel a’r iechyd meddwl da sy’n gysylltiedig â hynny, leihau’r risg o ddod yn rhan o drais.

Ffocws y strategaeth hon yw sicrhau bod plant hŷn a phobl ifanc yn gallu cael cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth perthnasol ac ystyrlon. Maent yn profi anghydraddoldebau difrifol o ran cael mynediad at y cyfleoedd hyn, gydag anghydraddoldebau yn cynyddu hyd yn oed yn fwy ymhlith rhai grwpiau.

Gallai rhaglenni gynnwys:

  • Darparu adnoddau ar gyfer cyfweliadau swyddi, gan gynnwys dillad a chludiant
  • Hyfforddiant sy’n cynnwys gwaith hunan-barch
  • Polisïau ac arferion cynhwysiant cadarn ar gyfer y gweithle

‘Byddwn yn teimlo fy mod wedi fy ngrymuso i gyflawni fy mhotensial.’

Nodi a chymorth cynnar

Pan aiff pethau o chwith, rhaid gwrando ar blant a phobl ifanc, eu credu a’u helpu.

Mae’r strategaeth hon yn disgrifio dulliau sy’n ystyriol o drawma o annog plant a phobl ifanc sydd wedi profi trais, neu sy’n pryderu am drais, i gael mynediad at gymorth diogel, priodol ac amserol.

Gallai rhaglenni gynnwys:

  • llinellau cymorth
  • hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma ar gyfer y gweithlu plant a phobl ifanc
  • nodi ac atgyfeirio rhwng gwasanaethau (er enghraifft, gwasanaethau dalfa yn cyfeirio plentyn at weithiwr ieuenctid)

‘Byddai gwell gwasanaethau iechyd meddwl yn helpu achos sylfaenol yr angen i bobl fod yn dreisgar.’

Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt

Gall risg plant a phobl ifanc o ddod yn rhan o drais gael ei glustogi trwy gysylltiadau cryf ag oedolion gofalgar (y tu allan i rieni a gofalwyr). Gall gwneud gweithgareddau sy’n annog ​datblygiad eu sgiliau, creadigrwydd, dysgu a thwf helpu hefyd.

Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ddarparu cysylltiadau cyson â model rôl oedolyn i helpu plant a phobl ifanc i ddysgu sut i gael perthnasoedd iach , herio ymddygiadau neu gredoau niweidiol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt.

Gallai rhaglenni gynnwys:

  • cynlluniau cerddoriaeth, celf neu theatr
  • clybiau a chynlluniau chwaraeon 
  • cynlluniau ar lawr gwlad a arweinir gan y gymuned
  • gwaith allgymorth ieuenctid 

Byddai ein bywydau yn fwy pleserus.’

Amgylcheddau cymunedol diogel

Yn rhy aml, nid yw plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau.

Mae creu amgylcheddau amddiffynnol sy’n caniatau i blant a phobl ifanc ffynnu a datblygu yn strategaeth bwysig i hyrwyddo eu diogelwch corfforol a seicolegol, a’u hiechyd a’u lles. Gall hefyd helpu i roi terfyn ar drais.

Gall ‘cymunedau’ gynnwys mannau ffisegol megis ysgolion, trefi ac ardaloedd bywyd nos, yn ogystal â mannau ar-lein megis llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.

Gall gweithgareddau gynnwys:

  • hyfforddiant diogelwch ar-lein 
  • addasu’r amgylchedd ffisegol – er enghraifft, mwy o oleuadau a theledu cylch cyfyng
  • nodi mannau lle ceir llawer o drais mewn ardaloedd bywyd nos er mwyn llywio penderfyniadau trwyddedu, cynllunio trafnidiaeth neu gynlluniau diogelwch eraill.

‘Byddwn i’n gadael y tŷ yn amlach.’

Ysgolion ac addysg

Mae lleoliadau addysg yn chwarae rhan hanfodol o ran atal trais. Mae’r rhain yn lleoedd lle mae plant a phobl ifanc yn dysgu normau cymdeithasol, yn datblygu ymdeimlad o berthyn ac yn caffael gwybodaeth, sgiliau a phrofiad. 

Mae ymgysylltiad addysgol hefyd yn ffactor amddiffynnol pwysig wrth atal trais yn ystod plentyndod a blaenlencyndod – a thrwy weddill eu hoes. 

Gallai rhaglenni gynnwys:

  • llinellau cymorth
  • hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma ar gyfer y gweithlu plant a phobl ifanc
  • nodi ac atgyfeirio rhwng gwasanaethau (er enghraifft, gwasanaethau dalfa yn cyfeirio plentyn at weithiwr ieuenctid) 

‘Byddai gwell gwasanaethau iechyd meddwl yn helpu achos sylfaenol yr angen i bobl fod yn dreisgar.’

Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb

Er y gall trais ddigwydd i unrhyw un, mae ei effeithiau andwyol yn cael eu teimlo fwyaf difrifol mewn cymunedau â lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Felly mae lleihau tlodi ac anghydraddoldeb incwm yn flociau adeiladu sylfaenol ar gyfer atal trais a gwella diogelwch.

Gall polisïau a rhaglenni gynnwys:

  • cryfhau cyfleoedd arweinyddiaeth, gan gynnwys cyfranogiad gwleidyddol, i blant a phobl ifanc o grwpiau ymylol
  • gwella sicrwydd economaidd a sefydlogrwydd i bobl o grwpiau ymylol
  • prif ffrydio rhyw a chyllidebu rhyw 

Dylai pob rhaglen gynnwys cymunedau fel arweinwyr wrth gynllunio, datblygu a gweithredu, a darparu cyfleoedd i gysylltu â hunaniaeth ddiwylliannol a chymunedol i feithrin ymdeimlad o berthyn.

‘Mae diogelwch yn fraint dosbarth canol.’

Polisi a deddfwriaeth

Er na all deddfau yn unig leihau trais, mae eu gweithredu a’u gorfodi’n effeithiol yn cryfhau pob un o’r naw strategaeth i atal trais ymhlith plant a phobl ifanc.

Mae fframwaith deddfwriaethol a pholisi cadarn yn gosod y sylfaen ar gyfer atal trais, mynd i’r afael â ffactorau risg a deddfu ar gyfer defnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar hawliau plant. Gall hefyd ddarparu strwythur ar gyfer amddiffyn, ymateb i a chefnogi dioddefwyr, tystion a phlant yn effeithiol.

Mae enghreifftiau yn cynnwys: 

  • cryfhau systemau a chydgysylltu ar gyfer amddiffyn, ymateb a chefnogi drwy fandadau, safonau, gweithdrefnau a mecanweithiau atebolrwydd
  • gwella cyllid ar gyfer atal a chyfrifoldeb partneriaid i weithredu i atal trais trwy waith amlasiantaethol
  • sefydlu llwybrau i gyfiawnder teg, tryloyw a chyfeillgar i blant i bob plentyn

‘Mae angen newid y system wleidyddol i greu cymdeithas decach.’

Normau a gwerthoedd cymdeithasol

Mae gwerthoedd unigolyn yn cael eu dylanwadu gan eu teulu, grŵp cyfoedion, cymuned a chymdeithas.

Mae ymdrechion i hyrwyddo normau a gwerthoedd cymdeithasol cadarnhaol – ac i leihau effaith rhai niweidiol – yn arf hanfodol ar gyfer atal trais.

Mae’r strategaeth hwn yn canolbwyntio ar gryfhau normau a gwerthoedd cymdeithasol cryfach sy’n cefnogi perthnasoedd di-drais, parchus, meithringar, cadarnhaol a theg rhwng y rhywiau ar gyfer holl plant a phobl ifanc.

Gall rhaglenni gynnwys:

  • y rhai sy’n addysgu ymyrraeth gan wylwyr
  • ymgyrchoedd marchnata cymdeithasol
  • hyfforddiant cynghreiriaeth 

‘Byddwn yn teimlo’n ddiogel yn fy nghroen fy hun.’