Mae pobl yn iachach, mae teuluoedd yn cael eu cefnogi’n well a’u harfogi i feithrin datblygiad a lles plentyn, mae sefydliadau’n fwy cynhwysol, mae cymunedau’n fwy diogel ac mae cymdeithas yn decach.
Mae pob plentyn a pherson ifanc yn cael ei glywed, yn cael ei ymddiried ynddo ac yn gallu byw yn rhydd rhag ofn trais. Gall plant a phobl ifanc fod nhw eu hunain. Nid yw syniadau cyfyngol ac ystrydebol am rywedd, hil, oedran neu rywioldeb, na chrefydd yn eu cyfyngu na’u gorfodi.
Yn gwrando ar gymunedau ac yn datblygu atebion gyda’i gilydd. Mae’n fan lle mae pobl yn cael eu trin yn gyfartal, yn cael eu parchu, a’u gwerthfawrogi yn eu perthnasoedd ac yn gyhoeddus. Mae ein cartrefi, ein gweithleoedd a’n hysgolion, a’n mannau cyhoeddus a’n cymunedau yn gynhwysol, yn deg ac yn ddiogel i bawb.