Lawrlwythwch y llawlyfr

Pwy sy’n cymryd rhan

Mae Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru wedi arwain ar ddatblygu Fframwaith Cymru Heb Drais.

Ynglŷn â Peer Action Collective Cymru:

Mae Peer Action Collective Cymru (PAC Cymru) yn brosiect ymchwil gweithredu cymdeithasol arloesol a arweinir gan blant a phobl ifanc 16 i 25 oed ac wedi ei ariannu gan y Gronfa Waddol Ieuenctid a’r Co-Op. Mae PAC Cymru yn dylunio ac yn cynnal ymchwil am brofiadau pobl ifanc o drais. Wedyn maen nhw’n cael eu cynorthwyo i droi’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn weithredu i greu cyfleoedd i bobl ifanc wneud eu cymuned yn lle mwy diogel a thecach. Yng Nghymru, cefnogir Peer Action Collective gan Media Academy Cymru.

Ynglŷn ag Uned Atal Trais Cymru:

Cafodd Uned Atal Trais Cymru (VPU) ei sefydlu â chyllid gan y Swyddfa Gartref yn 2019. Tîm amlasiantaethol yw hwn sy’n rhychwantu plismona ac iechyd, gan ddefnyddio dull iechyd cyhoeddus o atal trais. Mae hyn yn golygu ceisio deall achosion trais yn seiliedig ar dystiolaeth a defnyddio’r dystiolaeth hon i ddatblygu ymyriadau sy’n canolbwyntio ar achosion sylfaenol trais. Mae ymyriadau’n cael eu gwerthuso cyn eu cynyddu i helpu rhagor o bobl a chymunedau ledled Cymru. Trwy’r dull hwn mae’r VPU yn anelu at ddatblygu ymateb system gyfan i atal trais.

Cynorthwyodd nifer o sefydliadau yng Nghymru ddatblygiad y Fframwaith trwy ddarparu arweiniad ac arbenigedd technegol a threfnu gweithdai a darparu mannau i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Sefydliadau hyn yw:

  • Prifysgol Aberystwyth
  • Bawso
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Grow Cymru
  • Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Heddlu De Cymru
  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
  • Grid y De Orllewin ar gyfer Dysgu
  • Steps4Change
  • Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Llywodraeth Cymru
  • Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Ochr yn ochr â’r cymorth hwn, cymerodd dros 1,000 o blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru ran mewn gweithdai, digwyddiadau a’r ymgynghoriad ar-lein.

Mae hyn yn cynnwys cynrychiolaeth o:

  • Academia
  • Y Celfyddydau
  • Gwasanaethau Plant
  • Diogelwch Cymunedol
  • Cyfiawnder Troseddol
  • Addysg
  • Y Gwasanaeth Tân ac Achub
  • Addysg Bellach
  • Llywodraeth, gan gynnwys Llywodraeth
    Leol
  • Lechyd, gan gynnwys iechyd meddwl a
    gwasanaethau iechyd y cyhoedd
  • Awdurdod Lleol
  • Llywodraeth leol
  • Plismona
  • Diogelu
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Trydydd Sector
  • Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwaith Ieuenctid