Cyfarfu Uned Atal Trais Cymru a Peer Action Collective Cymru i drafod uchelgais ar y cyd i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc.
Gyda’n gilydd, cytunwyd i ddatblygu canllaw a allai baratoi’r ffordd ar gyfer Cymru heb drais, un a oedd yn canolbwyntio ar atebion i gynorthwyo gweithwyr proffesiynol ac yn adlewyrchu safbwyntiau, profiadau a dyheadau plant a phobl ifanc sy’n byw yng Nghymru.
Dilynodd blwyddyn o ymchwil, ymgynghori a sgyrsiau â dros 1,000 o weithwyr proffesiynol, plant a phobl ifanc, gan arwain at Gymru Heb Drais: Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc. Mae’r Fframwaith hwn yn dangos gobaith ar y cyd am Gymru heb drais yn y dyfodol ac uchelgais gan blant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol fel ei gilydd i wneud i hyn ddigwydd.
Rydym yn falch o’r hyn yr ydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn, ond dim ond y dechrau ydyw mewn gwirionedd. Am y tro, drosodd i chi.
Mae Llawlyfr Cymru Heb Drais yn cynnwys y Fframwaith llawn, sy'n gosod y sylfaen ar gyfer gweithredu amlasiantaethol. Bwriad y Fframwaith yw cynorthwyo partneriaid yng Nghymru i sicrhau bod amser, arian ac adnoddau gwerthfawr yn cael eu gwario ar weithredu strategaethau a gweithgareddau sy'n atal trais ymhlith plant a phobl ifanc.