Yn rhan o’i chenhadaeth strydoedd mwy diogel, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud addewidion mawr ynghylch atal trais. Nod y genhadaeth strydoedd mwy diogel yw lleihau niwed a chynyddu hyder y cyhoedd mewn plismona ac yn y system cyfiawnder troseddol. Rhan annatod o genhadaeth strydoedd mwy diogel yw uchelgais Llywodraeth y DU i haneru troseddau cyllyll a haneru trais yn erbyn menywod a merched erbyn 2035.
Ochr yn ochr â chyflwyno mesurau polisi, fel gwneud sbeicio diod yn drosedd; gwahardd arfau angheuol; cynyddu plismona yn y gymdogaeth; a gwella amddiffyniadau i ddioddefwyr a goroeswyr, mae ymrwymiad i atal trwy fynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais. Mae hyn yn cynnwys targedu normau cymdeithasol sy’n galluogi neu’n hyrwyddo trais. Yng Nghymru, mae gennym ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sef Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru a’i Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 sydd hefyd yn rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal.
Mae’r ddwy lywodraeth ill dwy’n hyrwyddo atal, ac felly mae Arweinydd Rhaglen Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru, Lara Snowdon, yn ysgrifennu’r blog cyntaf mewn cyfres sy’n ystyried cenhadaeth strydoedd mwy diogel Llywodraeth y DU, a sut mae hyn yn cefnogi atal trais yng Nghymru. Mae’r blog cyntaf hwn yn archwilio sut mae canolbwyntio ar atal cychwynnol yn hanfodol i uchelgais Llywodraeth y DU i haneru Trais yn erbyn Menywod a Merched a throseddau cyllyll.
Rydym yn croesawu ffocws Llywodraeth y DU ar atal a’r ymrwymiad i haneru troseddau trais yn erbyn menywod a merched a throseddau cyllyll yn y degawd nesaf. Mae trais yn argyfwng iechyd y cyhoedd sydd â chost difesur i iechyd a lles unigolion, teuluoedd a chymdeithas. Gall trais a thrawma achosi niwed corfforol, meddyliol ac emosiynol a all gael effeithiau dinistriol gydol oes.
Mae cyflawni ymrwymiadau uchelgeisiol Llywodraeth y DU yn gofyn am ddull iechyd y cyhoedd sy’n canolbwyntio ar atal. Mae dull iechyd y cyhoedd yn ffordd o weithio sy’n canolbwyntio ar iechyd, diogelwch a lles poblogaeth gyfan. Mae’n defnyddio tystiolaeth amlddisgyblaethol er mwyn mabwysiadu dull systematig o leihau nifer yr achosion o drais ar draws poblogaeth. Defnyddiwyd offer dull iechyd y cyhoedd, a sgiliau ymarferwyr, i wneud newidiadau sylweddol mewn problemau iechyd y cyhoedd difrifol eraill, fel ysmygu neu reoli clefydau heintus.
Uchelgais dull iechyd y cyhoedd yw creu newid systemig er mwyn lleihau nifer yr achosion o drais. Er mwyn gwneud hyn, mae angen dull system gyfan lle mae gan bawb ran i’w chwarae. Mae hyn yn cynnwys cymunedau, teuluoedd, y GIG, yr heddlu, ysgolion a lleoliadau addysg, elusennau a sefydliadau cymunedol, yn ogystal â Llywodraethau Cymru, Llywodraeth y DU a llywodraeth leol.
Nod atal cychwynnol yw atal trais cyn iddo ddigwydd. Fel cymdeithas, os ydym o ddifrif ynglŷn â lleihau nifer yr achosion o drais, rhaid inni fuddsoddi mewn atal cychwynnol a darparu adnoddau llawn ar ei gyfer. Nid yw atal trais ar raddfa fawr yn ymwneud ag ymyriadau untro. Mae’n gofyn am ddull system gyfan cydlynol sy’n addasu ffactorau risg ac yn gwneud y mwyaf o ffactorau amddiffynnol ar draws cwrs bywyd.
Dylai dull system gyfan rychwantu’r elfen ‘ecoleg gymdeithasol’ (gan gynnwys cymorth i unigolion a theuluoedd, hyd at ymyriadau cymunedol a newid cymdeithasol a deddfwriaethol) ac ar draws cwrs bywyd. Mae Cymru Heb Drais: Fframwaith a Rennir ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc yn enghraifft o fframwaith ar gyfer deall a gweithredu ystod o strategaethau ar gyfer atal cychwynnol ac ymyrraeth gynnar. Mae fframweithiau eraill ar gyfer atal trais yn cynnwys fframweithiau RESPECT ac INSPIRE Sefydliad Iechyd y Byd y gellir eu defnyddio i lywio ymateb strategol a chydlynol o safbwynt atal cychwynnol.
Mae rhai strategaethau atal cychwynnol yn gyffredinol, h.y. cânt eu cyflwyno i’r boblogaeth gyfan. Mae strategaethau eraill ar gyfer atal cychwynnol wedi’u targedu at gynulleidfa neu garfan benodol. Gall gweithredu ymyriadau atal cychwynnol gael effeithiau ar iechyd y cyhoedd sy’n mynd y tu hwnt i’r canlyniad a fwriadwyd. Er enghraifft, gallai ymyrraeth er mwyn hyrwyddo perthnasoedd iach mewn ysgolion atal trais, gwella iechyd rhywiol a lles meddyliol, fodd bynnag, gallai hefyd gynyddu datgeliadau trais. Dylid rhagweld y canlyniadau hyn a’u cynllunio’n ofalus yn rhan o ddatblygu, cyflwyno a gwerthuso ymyriadau, er mwyn sicrhau y gellir rheoli datgeliadau’n ddiogel yn rhan o ddull sy’n ystyriol o drawma.
Dylai atal cychwynnol effeithiol fod yn seiliedig ar dystiolaeth a damcaniaeth, wedi’i lywio gan ddata, ac wedi’i gynhyrchu ar y cyd â’r gymuned y bwriedir iddo ei gwasanaethu. Mae strategaethau effeithiol yn fwy tebygol o bara’n hir, cael eu hamseru’n briodol, cael hyfforddwyr/hwyluswyr medrus yn rhan o bethau, a bod yn berthnasol yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol i’r gynulleidfa darged. Dylai atal cychwynnol fod wedi’i seilio ar hawliau dynol, bod yn ystyriol o drawma, a hyrwyddo tegwch.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi cymryd camau sylweddol i ddatblygu a gweithredu dull iechyd y cyhoedd o ran atal trais. Mae enghreifftiau o ddulliau strategol o ran atal trais yn cynnwys:
Bydd y blog nesaf yn y gyfres hon yn archwilio strategaethau effeithiol ar gyfer atal trais