Lawrlwythwch y llawlyfr

A allwn ni haneru trais mewn degawd? Heriau o ran atal trais

Yn y gyfres hon o flogiau, mae Lara Snowdon, Arweinydd Rhaglen Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn archwilio rhai o’r heriau allweddol y mae Llywodraethau’r DU a Chymru yn eu hwynebu wrth gyflawni eu hymrwymiadau uchelgeisiol i atal trais. Mae’r drydydd blog yn canolbwyntio ar bedwar her gymhleth sy’n gysylltiedig ag atal trais ar lefel y boblogaeth, trwy ddull iechyd y cyhoedd.

Roedd postiadau cynharach yn tynnu sylw at bwysigrwydd canolbwyntio ar atal cychwynnol – mynd i’r afael ag achosion sylfaenol trais cyn iddo ddigwydd – a’r strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n ymddangos yn addawol ar gyfer ymyriadau atal cychwynnol. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda chyfeiriad clir a dulliau profedig, mae rhwystrau sylweddol i’w goresgyn os ydym o ddifrif ynglŷn â lleihau trais ar raddfa fawr ac yn gyflym.

1. Mae trais yn gymhleth ac wedi’i wreiddio’n ddwfn

Nid yw trais yn un mater gydag un achos. Mae’n cael ei lunio gan we o ffactorau cymdeithasol, economaidd a diwylliannol – yn cynnwys tlodi, anghydraddoldeb, normau rhywedd niweidiol, adfyd yn ystod plentyndod, a gwahaniaethu strwythurol. Rhaid i atal effeithiol lywio a mynd i’r afael â’r heriau croestoriadol hyn, sydd yn aml yn gofyn am gydweithrediad hirdymor, traws-sector sy’n mynd y tu hwnt i gylchoedd ariannu byr neu dymhorau seneddol. Fodd bynnag, mae cydnabod y cydberthynas gymhleth hon rhwng ffactorau risg a ffactorau amddiffynnol (trwy lens gymdeithasol-ecolegol) yn gam pwysig wrth ddatblygu a dylunio dulliau effeithiol o atal.

Ni all un asiantaeth, sector neu ymyrraeth atal trais ar ei ben ei hun. Mae’n gofyn am ddull system gyfan i fynd i’r afael ag ysgogwyr strwythurol trais yn ogystal â ffactorau risg unigol. Yng Nghymru, mae Fframwaith Cymru Heb Drais (darllenwch yma) yn cynnig strwythur clir, sy’n seiliedig ar iechyd y cyhoedd, ar gyfer y math hwn o gydweithio. Wedi’i ddatblygu drwy gyd-gynhyrchu, mae’r Fframwaith yn helpu i alinio gwaith ar draws lefelau lleol a chenedlaethol, ac yn eiriol dros ymarfer sy’n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth drwy’r naw strategaeth ar gyfer atal trais. Mae dulliau system gyfan fel hyn yn gwneud atal yn fater i bawb – ac maent yn hanfodol os ydym am gyflawni newid ar y raddfa a’r cyflymder sydd eu hangen.

2. Mae bylchau mewn data yn cyfyngu ar ddealltwriaeth a gweithredu

Mae data cyson a chadarn sy’n rhoi cipolwg ar gyffredinrwydd gwahanol fathau o drais yn hanfodol. Heb ddata cadarn a manwl, nid yw’n bosibl atal trais mewn ffordd ystyrlon, gan nad ydym yn gwybod beth rydym yn ei fesur na’n ei gymharu yn ei erbyn. Yng Nghymru, mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud i wella ansawdd y data a ddefnyddir i ddeall trais. Fodd bynnag, mae bylchau o hyd yn ein dealltwriaeth o gyffredinrwydd a chroestoriadedd. Mae gan y Tîm Atal Trais yn Iechyd Cyhoeddus Cymru bellach gytundebau rhannu data ar waith gyda phob Bwrdd Iechyd yng Nghymru i gael gwybodaeth ddienw am bresenoldeb mewn adrannau brys lle mae trais gydag anaf wedi’i nodi. Mae hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer atal trais yng Nghymru. Bydd data ar gael i bartneriaid drwy Adroddiadau Monitro Trais ddwywaith y flwyddyn a thrwy ein Porth Atal Trais (ochr yn ochr ag amrywiaeth o setiau data gweinyddol ychwanegol).

Fodd bynnag, cyfran fach iawn o nifer yr achosion gwirioneddol y mae data gweinyddol (sy’n dweud wrthym am y rhai sy’n ceisio mynediad at wasanaethau) yn ei gynrychioli. Ar hyn o bryd, nid yw data arolygon ar drais (trwy Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr) yn cael ei ddatgrynhoi’n rheolaidd. Mae hyn yn cuddio’r amodau demograffeg, cymdeithasol a pholisi penodol yng nghyd-destun Cymru. Fel yr amlygwyd yn ein cyhoeddiad diweddar dan arweiniad Dr Polina Obolenskaya o Gonsortiwm VISION (darllenwch yma), mae hyn yn cyfyngu ar y gallu i dargedu ymyriadau a mesur cynnydd yn effeithiol.

Yn ogystal, ar draws setiau data mae bylchau sylweddol wrth adrodd ar nodweddion gwarchodedig, megis anabledd, ethnigrwydd, cyfeiriadedd rhywiol, a hunaniaeth rhywedd. Heb y data hwn, mae risg bod rhaglenni’n cael eu cynllunio heb ddealltwriaeth ddigonol o natur groestoriadol trais ac felly, heb y mewnwelediad sydd ei angen i gefnogi’r rhai sydd mewn mwyaf o berygl. Byddai data arolwg cadarn a chynrychioliadol sy’n rhoi darlun cywir o lefelau trais yn gam nesaf arwyddocaol i Lywodraethau Cymru a’r DU fesur amcanion uchelgeisiol ar gyfer atal trais.

3. Polisi datganoledig a chyfrifoldebau wedi’u rhannu

Mae Cymru yn genedl gyda’i senedd a’i llywodraeth ei hun, gyda phwerau sydd wedi’u datganoli gan lywodraeth y DU yn San Steffan o dan gyfres o Ddeddfau deddfwriaethol. Mae meysydd polisi allweddol sy’n berthnasol i atal trais sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru yn cynnwys iechyd, addysg, tai a gofal cymdeithasol tra bod polisi a deddfwriaeth Cymru a Lloegr ar faterion troseddu a chyfiawnder yn parhau i fod yn bennaf o dan Swyddfa Gartref a Gweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth y DU. Mae hyn yn arwain at gymhlethdod i wasanaethau sy’n gweithredu yng Nghymru, sydd yn aml yn gorwedd rhwng systemau, ffrydiau ariannu a blaenoriaethau sy’n gorgyffwrdd. Un enghraifft yw’r Ddyletswydd Trais Difrifol, sy’n berthnasol yng Nghymru ond y mae’n rhaid ei gweithredu ochr yn ochr â deddfwriaeth Gymreig bresennol fel Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) (Cymru) 2015. Byddai Cymru’n elwa ar well cydlyniant ar draws cyfrifoldebau datganoledig a heb eu datganoli, gyda pholisi a chyllid sy’n parchu anghenion a strwythurau penodol Cymru. Mae’r dull Glasbrint Cyfiawnder a VAWDASV yng Nghymru yn ceisio gwneud hyn, gan ddod â gweinidogion ac adrannau o’r ddwy lywodraeth ynghyd, gydag arweinyddiaeth gan Weinidogion Cymru a Phlismona yng Nghymru. Fodd bynnag, mae problemau cyffredinol mewn perthynas â natur anghyson datganoli yng Nghymru yn parhau.

Yn yr un modd, mae strategaeth a pholisi VAWG yn y DU (trais yn erbyn menywod a merched) yn cael eu cyflwyno i raddau helaeth ar wahân i bolisi ar fathau eraill o drais rhyngbersonol er gwaethaf ysgogwyr a chyfleoedd atal cyffredin. Yn ein hymchwil gyda phlant a phobl ifanc (darllenwch yma), gwelsom nad yw trais yn cael ei brofi yn y ffordd y mae’r seilos polisi hyn yn ei awgrymu. Yn hytrach, gall profi adfyd yn ystod plentyndod, yn cynnwys cam-drin domestig yn y cartref, gynyddu’r risg o ymwneud â thrais gangiau, er enghraifft. Yn yr un modd, i unigolyn ifanc amrywiol o ran rhywedd, gallai aflonyddu rhywiol a bwlio gynrychioli ffurfiau cydamserol o wahaniaethu. Er bod gwahaniaethau ac arbenigeddau pwysig o fewn y meysydd polisi hyn, mae’n rhaid i ni gofio am brofiadau bywyd plant a phobl ifanc a rhaid i’r meysydd polisi hyn fod yn fwy cydgysylltiedig os ydym am atal trais yn effeithiol.

Mae’r Comisiynydd Cam-drin Domestig wedi tynnu sylw at yr angen hollbwysig hwn am ddulliau cydgysylltiedig (darllenwch yma), gan nodi bod corff cynyddol o dystiolaeth yn dangos y cyd-drawiad rhwng trais ieuenctid a phrofiadau o gam-drin domestig (gweler ymchwil Jade Levell – darllenwch yma). O ystyried y cysylltiadau hyn, mae cyfleoedd clir i ddatblygu ymatebion sy’n mynd i’r afael â gwahanol fathau o niwed yn holistaidd, yn cynnwys deall ffactorau strwythurol sylfaenol a rennir a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Canfu ymchwil y Comisiynydd fod y Ddyletswydd Trais Difrifol a natur ddewisol diffiniadau lleol o ‘drais difrifol’ wedi atgyfnerthu meddwl ar wahân. Er bod cam-drin domestig wedi’i gynnwys yn y diffiniad cyfreithiol o ‘Drais Difrifol’, yn ymarferol, nid yw hyn wedi trosi’n ymateb strategol cydgysylltiedig. Mae diffyg cydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol trais difrifol a cham-drin domestig yn cyfyngu ar gydlynu a dealltwriaeth gyffredin o ran arferion gorau.

4. Croestoriadedd a thegwch

Mae’r dystiolaeth yn glir: mae trais yn cael ei brofi’n anghymesur. Mae deall yr anghydraddoldebau hyn yn hanfodol ar gyfer atal effeithiol, ond mae hefyd yn un o’n heriau mwyaf cymhleth. Fel y gwelsom yn yr adrannau blaenorol, mae trais wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn strwythurau cymdeithasol, mae ein systemau data yn aml yn methu â chipio’r darlun llawn, ac nid yw polisi bob amser yn cydnabod yr anghydraddoldebau hyn nac yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Mae defnyddio lens groestoriadol yn hanfodol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb. Heb hyn, ni ellir cyflawni cydraddoldeb i bawb yng Nghymru.

Mae trais yn dilyn patrymau o anghydraddoldeb sy’n adlewyrchu anghyfiawnderau cymdeithasol ehangach. Mae plant a phobl ifanc yn wynebu risgiau llawer uwch nag oedolion, gyda’r rhai yn ardaloedd tlotaf y DU saith gwaith yn fwy tebygol o fod yn rhan o droseddau treisgar fel oedolion ifanc.. Mae rhywedd yn parhau i fod yn un o’r rhagfynegwyr cryfaf o gyflawni a dioddef. Mae dynion yn llawer mwy tebygol o fod yn gyflawnwyr ar draws pob math o drais rhyngbersonol. Yn fyd-eang, mae un o bob tair menyw wedi dioddef trais gan bartner agos neu drais rhywiol gan rywun nad yw’n bartner yn ystod eu hoes, tra bod 97% o fenywod 18-24 oed ledled y DU yn dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus.

Mae’r darlun yn dod yn fwy cymhleth eto pan ystyriwn hunaniaethau sy’n croestorri: mae unigolion amrywiol o ran rhywedd, pobl anabl, a’r rhai o grwpiau ethnig Du a lleiafrifol i gyd yn wynebu risgiau anghymesur. Efallai mai’r peth sy’n peri’r pryder mwyaf yw natur gylchol trais sy’n atgynhyrchu’r anghydraddoldebau hyn. Yng Nghymru, mae pobl sydd wedi profi adfyd sylweddol yn ystod plentyndod 15 gwaith yn fwy tebygol o brofi trais fel oedolion..

Nid yw’r ddealltwriaeth groestoriadol hon yn ymwneud â dogfennu anghydraddoldebau yn unig – mae’n hanfodol i atal effeithiol. Mae’r bylchau data a drafodwyd gennym yn gynharach yn aml yn methu â gweld y profiadau amrywiol hyn, tra gall y darnio polisi a amlinellir yn adran 3 achosi i’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan anghydraddoldebau cymdeithasol ddisgyn drwy’r rhwyd. Nid yw atal trais sy’n methu ag ystyried croestoriadedd yn atal i bawb. Mae angen gwasanaethau a strategaethau arnom sy’n gynhwysol ar draws cwrs bywyd, wedi’u cynllunio gyda dealltwriaeth o ymyleiddio, hunaniaeth ac anghydraddoldeb. Dim ond drwy gydnabod ac ymdrin â sut mae strwythurau cymdeithasol yn creu’r amodau ar gyfer trais y gallwn obeithio sicrhau atal trais sy’n wirioneddol effeithiol a chyfartal. Dim ond os ydym yn sicrhau bod y gostyngiad yn fuddiol i bob cymuned y gellir cyflawni’r uchelgais i haneru trais mewn degawd.

Edrych i’r Dyfodol

Mae llawer o heriau ynghlwm wrth atal trais yn cynnwys cyllid, ewyllys gwleidyddol, a’r bwlch rhwng polisi a gweithredu, er enghraifft. Mae’r blog hwn wedi canolbwyntio ar bedwar her allweddol ar gyfer atal trais drwy ddull iechyd y cyhoedd. Nid tasg syml yw haneru trais mewn degawd – ond mae’r uchelgais yn bwysig. Drwy enwi’r heriau yn ogystal â’r datrysiadau, gallwn ddatblygu dull mwy gonest, cadarn a chydweithredol o atal trais. Beth yw’r prif heriau o ran atal trais yn eich barn chi?

Yn ein blog nesaf, byddwn yn edrych ar enghreifftiau byd-eang o strategaethau atal trais ar waith ac yn ystyried yr hyn y gellir ei ddysgu o ddulliau effeithiol.

Rhestr Gyfeirio

1.Levell, J. (2022). Boys, childhood domestic abuse and gang involvement: Violence at home, violence on-road. Bristol: Policy Press Scholarship Online.

2. Mok et al., (2018). Family income inequalities and trajectories through childhood and self-harm and violence in young adults: a population-based, nested case-control study, Lancet Public Health, 3(10).

3. UN Women UK. (2021). Prevalence and reporting of sexual harassment in public spaces. Arolwg a gynhaliwyd mewn partneriaeth â’r Grŵp Seneddol Trawsbleidiol UN Women. Cyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021.

4. Bellis, M.A., Hughes, K., Ashton, K., Ford, K., Bishop, J., & Paranjothy, S. (2016). Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a’u Heffaith ar Ymddygiadau sy’n Niweidio Iechyd ym Mhoblogaeth Oedolion Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Erthyglau eraill

Gweld popeth