Dyma’r pedwerydd mewn cyfres o bostiadau blog gan Lara Snowdon, sy’n Arweinydd Rhaglen Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hi’n myfyrio ar fenter Strydoedd Mwy Diogel Llywodraeth y DU a sut mae’n cefnogi atal trais yng Nghymru.
Mae trais yn effeithio ar gymunedau ledled Cymru bob dydd. Ond beth fyddai effaith haneru’r cyfraddau trais ymhen degawd? Beth pe baem yn gallu atal miloedd o blant rhag cael eu cam-drin? Nid gobeithion yn unig mo’r rhain – maent yn gyflawniadau sydd eisoes wedi’u gwireddu gan wledydd sy’n dilyn dulliau iechyd y cyhoedd cynhwysfawr tuag at atal trais.
Wrth i Gymru ddatblygu ei dull atal trais ei hun, gallwn ddysgu o lwyddiannau ac ymdrechion parhaus gwledydd ledled y byd. Mae rhai ohonynt wedi sicrhau gostyngiadau rhyfeddol o ran trais ar lefel y boblogaeth ymhen 10 mlynedd. Mae gweledydd eraill yn cyflwyno camau gweithredu cychwynnol, ac mae hyn yn darparu gwersi gwerthfawr am yr heriau a’r amser sydd ei angen ar gyfer sicrhau newid systemig.
Yn 2010, gwnaeth Kenya rywbeth hollbwysig: fe fesurodd faint y broblem. Datgelodd ei Harolwg Cenedlaethol o Drais yn Erbyn Plant (VACS) bod argyfwng – roedd dros 80% o blant yn profi trais, gydag un o bob tair merch a bron i un o bob pum bachgen yn profi trais rhywiol yn ystod plentyndod UNICEF Kenya. (2020).
Nid oedd Kenya yn derbyn bod y sefyllfa hon yn anochel. Defnyddiwyd y data i sbarduno ymateb cenedlaethol cynhwysfawr a drawsnewidiodd sut mae’r wlad yn diogelu plant. Cryfhaodd diwygiadau i’r cyfansoddiad hawliau’r plant. Cyflwynodd y deddfau newydd waharddiad ar anffurfio organau cenhedlu benywod, gosodwyd isafswm oedran priodi, a sefydlwyd diogeliadau rhag trais domestig. Fe wnaethant sefydlu Systemau Diogelu Plant Cenedlaethol i gydlynu o’r lefel genedlaethol, yr holl ffordd i lawr i’r cymunedau. Sefydlwyd canolfannau ymateb integredig mewn cyfleusterau gofal iechyd ledled y wlad gyda gweithdrefnau safonol ar gyfer gofal sy’n canolbwyntio ar y plentyn (Annor et al., 2022).
Yna, yn 2019, mesurodd Kenya faint y broblem eto. Dangosodd yr ail VACS fod trais rhywiol yn ystod plentyndod wedi’i haneru ymysg merched a’i ostwng gan ddwy ran o dair ymysg bechgyn. Gostyngodd trais corfforol dros 40%. Miliynau o blant wedi’u diogelu rhag trais mewn llai na degawd (UNICEF Kenya, 2020).
Mae Kenya yn un o blith dim ond tair gwlad yn fyd-eang (ochr yn ochr â Zimbabwe ac Eswatini) i ddangos y math hwn o effaith fesuradwy ar lefel y boblogaeth drwy arolygon cenedlaethol a ailadroddir (Chian et al., 2024). Mae’n dangos beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n dechrau gyda data, yn sbarduno newid systemig gyda’r data, ac yna’n mesur a yw wedi bod yn llwyddiannus.
Gallwch ddarllen rhagor am daith Kenya ar dudalen Together for Girls Kenya: https://www.togetherforgirls.org/en/countries/kenya
Darllenwch ragor am Arolygon Trais yn Erbyn Plant (VACS) yma – https://www.togetherforgirls.org/en/resources/the-violence-against-children-surveys-vacs-using-vacs-data-to-drive-programmes-and-policies
Yn 2004, pasiodd Sbaen Gyfraith Organig 1/2004 ar Fesurau Diogelu Integredig yn erbyn Trais ar sail Rhywedd – cyfraith gynhwysfawr gyntaf Ewrop sy’n integreiddio atal, diogelu, erlyn, a chefnogi dioddefwyr yn sgil trais ar sail rhywedd. Nid dim ond darn arall o ddeddfwriaeth mo hwn. Roedd yn gydnabyddiaeth gyfansoddiadol bod trais ar sail rhywedd yn gofyn am ymyriadau ar raddfa eang gan y wladwriaeth ar draws pob sector.
Sefydlodd y gyfraith 106 o Lysoedd Trais yn Erbyn Menywod arbenigol gyda barnwyr ac erlynwyr pwrpasol. Fe greodd y llinell gymorth 016 – 24/7, am ddim, y gellir ei defnyddio heb gofnod ohoni ar filiau ffôn. Roedd yn gorchymyn cydlynu ar draws meysydd cyfiawnder, iechyd, addysg, y gwasanaethau cymdeithasol a chyflogaeth. Yna, yn 2017, aeth Sbaen gam ymhellach gyda Chytundeb Gwladwriaethol a gafodd gefnogaeth wleidyddol unfrydol – pob plaid, pob rhanbarth, a llywodraeth leol. 213 o fesurau. €1 biliwn dros bum mlynedd, a gyrhaeddodd €634 miliwn y flwyddyn yn y pen draw (Cyngor Ewrop, 2024; Senedd Ewrop, 2019).
Y canlyniadau? 13-14% yw’r cyfradd trais gan bartner agos gydol oes yn Sbaen. Mae hyn yn is o lawer na chyfartaledd yr UE, sef 22% (Y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Cydraddoldeb Rhywedd, 2016). Mae’r cyfraddau adrodd, ceisio cymorth, amseroedd prosesu achosion, a chyfraddau euogfarnu i gyd wedi gwella (UN Women, 2023).
Ond nid dim ond llwyddiannau a geir yn Sbaen. Mae llofruddiaethau menywod yn parhau – 43 o farwolaethau yn ystod 2021. Mae gwasanaethau’n parhau i fod yn anghyson ar draws ei rhanbarthau. Mae cymorth ariannol i oroeswyr yn dal i fod yn brin. Ac ar ôl 20 mlynedd o ymdrechu, mae un o bob dwy fenyw yn Sbaen yn dal i ddweud eu bod wedi profi trais ar ryw adeg yn ystod eu bywydau (Sefydliad Friedrich Naumann, 2022).
Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn Sbaen yn dangos yr hyn y gall ymrwymiad gwleidyddol parhaus, buddsoddiad sylweddol, a fframweithiau deddfwriaethol cynhwysfawr ei gyflawni. Fodd bynnag, er gwaethaf hyn oll, mae’n dangos bod dileu trais yn gyfan gwbl yn waith parhaus i nifer o genedlaethau.
Sefydlodd Yr Alban, a alwid ar un adeg yn ‘brifddinas llofruddiaethau Ewrop’, yr Uned Lleihau Trais (VRU) yn 2005. Roedd y VRU yn arloeswr o ran trin trais fel mater iechyd y cyhoedd – gweithredu amlasiantaeth, gwaith cydlynu cynaliadwy, ei roi ar waith ar raddfa genedlaethol.
Mae’r ystadegau’n drawiadol: mae’r cyfraddau llofruddiaeth wedi haneru ers 2008-09, mae ymosodiadau difrifol i lawr 47%, mae cyfradd llofruddiaethau Glasgow wedi gostwng ddwy ran o dair o fewn degawd (VRU Yr Alban, 2024).
Ond mae Fframwaith Atal Trais 2023 Yr Alban yn creu darlun mwy cymhleth. Ar ôl cyflawni bron i ddau ddegawd o waith a buddsoddi dros £24 miliwn, mae trais “yn parhau a gellir ei ystyried yn rhan arferol o fywyd” mewn gormod o gymunedau. Mae menywod ifanc 16-24 oed yn parhau i fod deirgwaith yn fwy tebygol na dynion ifanc o boeni am ddioddef ymosodiad corfforol. Mae llai nag 1% o’r boblogaeth yn profi bron i ddwy ran o dair o’r holl droseddau treisgar (Llywodraeth Yr Alban, 2023; Llywodraeth Yr Alban, 2024).
Mae sefyllfa’r Alban yn profi y gall dulliau iechyd y cyhoedd cynaliadwy sicrhau gostyngiadau sylweddol. Fodd bynnag, hyd yn oed ar ôl degawdau o ymdrechu a buddsoddiad sylweddol, mae’n dangos bod sicrhau newidiadau cynhwysfawr ar lefel y boblogaeth yn waith parhaus.
Tri chyd-destun gwahanol iawn – Kenya, Yr Alban, Sbaen – ond mae rhai patrymau clir yn dod i’r amlwg.
Mae data yn bwysig. Galluogodd arolygon VACS Kenya iddynt fesur yr hyn oedd yn gweithio. Roedd systemau data gweinyddol Sbaen yn olrhain cynnydd ar draws pob rhanbarth. Heb fesur yn erbyn llinell sylfaen, a gwaith monitro cyson, rydych chi’n gweithio’n ddall.
Mae’r gorwelion amser yn hir. Cyflawnodd Kenya ostyngiadau sylweddol ymhen degawd. Mae’r Alban wedi bod yn gwneud hyn ers 20 mlynedd ac mae’n dal i ddweud bod trais yn “gyffredin” mewn gormod o gymunedau. Mae Sbaen wedi cynnal ymdrech barhaus ers dau ddegawd ac mae un o bob dwy fenyw yn dal i adrodd eu bod wedi profi trais. Gwaith ar gyfer sawl cenhedlaeth yw hwn.
Rhaid cynnal y buddsoddiad. Yr Alban: dros £24 miliwn. Sbaen: €634 miliwn y flwyddyn. Sefydlodd Kenya seilwaith cenedlaethol o lefel gymunedol i lefel gyfansoddiadol. Nid yw rhaglenni unigol yn cyflawni newid ar lefel y boblogaeth.
Rhaid i ymrwymiad gwleidyddol oroesi newidiadau gweinidogol a llywodraethol. Cafodd Cytundeb Gwladwriaethol Sbaen yn 2017 gefnogaeth unfrydol ar draws pob plaid. Mae consensws trawsbleidiol o’r math hwnnw yn creu’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar gyfer gweithredu hirdymor.
Ond dyma’r wers bwysicaf: mae gostyngiadau sylweddol yn bosibl. Mae Kenya wedi haneru trais rhywiol yn ystod plentyndod mewn llai na degawd. Hanerodd Yr Alban ei chyfradd llofruddiaethau. Sicrhaodd Sbaen gyfraddau ymhell islaw cyfartaledd yr UE.
Nid yw trais yn anochel, mae modd ei atal. Nid yw’n gwestiwn a yw newid yn bosibl yng Nghymru. Yn hytrach, mae’n ofynnol i ni ofyn i’n hunain a ydym yn barod i ymrwymo’n barhaus i sicrhau newid go iawn.
Annor FB, Ideo N, Mmari K, et al. (2022). Changes in prevalence of violence and risk factors for violence and HIV among children and young people in Kenya: a comparison of the 2010 and 2019 Kenya Violence Against Children and Youth Surveys. BMJ Global Health, 7:e009979. Ar gael yn: https://pmc.ncbi.nlm.nih.gov/articles/PMC9791664/
Chiang LF, Kress H, Sumner SA, et al. (2024). Successful child sexual violence prevention efforts start with data: how the Violence Against Children and Youth Survey helped curb the tide of child sexual violence in 20 countries. BMJ Global Health, 9:e014190. Ar gael yn: https://pmc.ncbi.nlm.nih.gov/articles/PMC10936510/
Cyngor Ewrop. (2024). Committee of the Parties to the Council of Europe Convention on preventing and combating violence against women and domestic violence: Spain reporting form. Ar gael yn: https://rm.coe.int/ic-cp-inf-2024-4-spain-reporting-form-on-implementation-of-cop-recomme/1680ae6206
Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Cydraddoldeb Rhywedd. (2016). Combating violence against women – Spain. Ar gael yn: https://eige.europa.eu/sites/default/files/documents/2016.5476_mh0216771enn_pdfweb_20170215100603.pdf
Senedd Ewrop. (2019). FEMM Mission to Spain. Ar gael yn: https://www.europarl.europa.eu/RegData/etudes/BRIE/2019/608865/IPOL_BRI(2019)608865_EN.pdf
Sefydliad Friedrich Naumann (2022). Violence against Women: Spain is making progress in the fight against violence against women. Ar gael yn: https://www.freiheit.org/spain-italy-portugal-and-mediterranean-dialogue/spain-making-progress-fight-against-violence
Llywodraeth Yr Alban. (2023). New violence prevention strategy. Ar gael yn: https://www.gov.scot/news/new-violence-prevention-strategy/
Uned Lleihau Trais yr Alban. (2024). About Us. Ar gael yn: https://www.svru.co.uk/about-us/
Llywodraeth Yr Alban. (2024). Violence prevention framework for Scotland: annual progress report 2023 to 2024. Ar gael yn: https://www.gov.scot/publications/violence-prevention-framework-scotland-annual-progress-report-2023-2024/
NPR. (2015). How Glasgow Shed Its Reputation As ‘The Murder Capital Of Western Europe’. Ar gael yn: https://www.npr.org/2015/06/10/413318009/glasgow-reduces-homicide-rate-three-fold-over-10-year-period
UNICEF Kenya. (2020). Action urged as national survey finds half of Kenyan children suffer violence. Ar gael yn: https://www.unicef.org/kenya/press-releases/Action-urged-as-national-survey-finds-half-of-Kenyan-children-suffer-violence
UN Women. (2023). Take Five: How Spain is using administrative data to help end violence against women and girls. Ar gael yn: https://www.unwomen.org/en/news-stories/take-five/2023/07/take-five-how-spain-is-using-administrative-data-to-help-end-violence-against-women-and-girls