Lawrlwythwch y llawlyfr

A allwn ni haneru trais mewn degawd? Strategaethau ar gyfer atal trais

Strategaethau ar gyfer atal trais

Yn rhan o’i chenhadaeth strydoedd mwy diogel, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud addewidion mawr ynghylch atal trais. Mae’r rhain yn cynnwys uchelgeisiau i haneru troseddau cyllyll a haneru trais yn erbyn menywod a merched erbyn 2035. Yng Nghymru, mae gennym ddeddfwriaeth benodol yn ymwneud â Thrais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, sef Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru a’i Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26 sydd hefyd yn rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal.

Mae’r ddwy lywodraeth ill dwy’n hyrwyddo atal, ac felly mae Arweinydd Rhaglen Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru, Lara Snowdon, yn ysgrifennu’r ail flog mewn cyfres sy’n ystyried cenhadaeth strydoedd mwy diogel Llywodraeth y DU, a sut mae hyn yn cefnogi atal trais yng Nghymru. Mae’r blog cyntaf hwn yn archwilio sut mae canolbwyntio ar atal cychwynnol yn hanfodol i uchelgais y Llywodraeth i haneru troseddau trais yn erbyn menywod a merched a throseddau cyllyll. Mae’r ail flog hwn yn archwilio strategaethau effeithiol ar gyfer atal trais.

Sefydliadau atal trais

Mae atal trais yn gofyn am weithredu ar y cyd a chydgysylltu. Mae Cymru Heb Drais: fframwaith a rennir ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc, yn darparu fframwaith i ddeall yr elfennau allweddol sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau atal cychwynnol ac ymyrraeth gynnar yn llwyddiannus i roi terfyn ar drais ymhlith plant a phobl ifanc drwy ddull system gyfan sy’n ymdrin ag iechyd y cyhoedd. Mae’r Fframwaith yn darparu glasbrint ar gyfer y math hwn o weithredu cydlynol drwy ddisgrifio naw strategaeth y gellir eu defnyddio er mwyn atal trais.

Naw strategaeth atal trais

Mae’r naw strategaeth wrth wraidd Fframwaith Cymru Heb Drais. Maent yn rhychwantu’r blynyddoedd cynnar hyd at fod yn oedolyn ifanc ac yn cynnwys gweithgarwch atal a all gefnogi unigolion a chymunedau cyfan, ac effeithio ar newid systemig. Gallwch ddarllen rhagor am bob strategaeth yn y llawlyfr. Gallwch hefyd ddod o hyd i ddamcaniaeth newid sy’n dangos y canlyniadau a’r effeithiau allweddol a ddisgwylir os caiff pob strategaeth ei gweithredu’n effeithiol yn y llawlyfr.

Mae Pecyn Cymorth Cronfa Gwaddol Ieuenctid hefyd yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth am ymyriadau atal trais.

Teuluoedd, rhianta a’r blynyddoedd cynnar

Mae darparu amgylchedd cartref diogel, sicr a sefydlog yn lleihau’r risg o brofi trais a thrawma yn ystod plentyndod, yn ystod llencyndod a hyd at fod yn oedolyn. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar gefnogi rhieni a gofalwyr fel y gallant wneud yn union hynny. Mae’n ymwneud â helpu teuluoedd a phlant i feithrin a chynnal perthnasoedd cadarnhaol a meithrin cadernid, gan sicrhau hefyd bod plant yn cael addysg blynyddoedd cynnar a chyn-ysgol o safon. Mae’r mathau o ymyriadau a fyddai’n cael eu cynnwys yn y strategaeth hon yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Darparu gofal plant teg, fforddiadwy a hygyrch
  • Galluogi mynediad at dai diogel a sicr
  • Darparu rhaglenni rhianta
  • Rhaglenni maeth
  • Darparu rhaglenni therapi teuluol fel Therapi Aml-Systemig neu Therapi Teulu Swyddogaethol

Cyflogaeth a hyfforddiant

Gall cyflogaeth ddiogel, a’r hunan-barch uchel a’r iechyd meddwl da y mae hi’n eu cynnig, leihau’r risg o gymryd rhan mewn trais. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar sicrhau y gall plant hŷn a phobl ifanc gael cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth perthnasol ac ystyrlon. Gallai rhaglenni gynnwys:

  • Mentora
  • Rhaglenni cyflogaeth yr haf
  • Hyfforddiant sgiliau cymdeithasol
  • Polisïau ac arferion cynhwysiant yn y gweithle cadarn

Nodi a rhoi cymorth yn gynnar

Pan aiff pethau o chwith, rhaid gwrando ar blant a phobl ifanc, eu credu a’u helpu. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ddulliau sy’n ystyriol o drawma er mwyn annog plant a phobl ifanc sydd wedi profi trais – neu sy’n pryderu amdano – i gael mynediad at gymorth diogel, priodol ac amserol. Gallai rhaglenni gynnwys:

  • Therapïau penodol i drawma
  • Y sawl sy’n llywio mewn Adrannau Argyfwng
  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol
  • Cyfiawnder Adferol

Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt

Gellir lleihau’r risg o blant a phobl ifanc yn ymwneud â thrais drwy gysylltiadau cryf ag oedolion gofalgar (nad ydynt yn rhieni neu’n ofalwyr). Gall gwneud gweithgareddau sy’n annog eu sgiliau i ddatblygu, eu creadigrwydd, eu dysgu a’u twf hefyd helpu. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ddarparu cysylltiadau cyson ag esiampl sy’n oedolyn y gellir ymddiried ynddo er mwyn helpu plant a phobl ifanc i ddysgu sut i gael perthnasoedd iach, herio ymddygiadau neu gredoau niweidiol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt. Gallai rhaglenni gynnwys:

  • Rhaglenni chwaraeon
  • Rhaglenni ar ôl ysgol
  • Gwaith allgymorth ieuenctid

Amgylcheddau diogel yn y gymuned

Yn rhy aml, nid yw plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau. Mae creu amgylcheddau amddiffynnol sy’n caniatáu i blant a phobl ifanc ffynnu a datblygu yn strategaeth bwysig er mwyn hyrwyddo eu diogelwch corfforol a seicolegol, a’u hiechyd a’u lles. Gall hefyd helpu i roi terfyn ar drais. Gall ‘cymunedau’ gynnwys lleoedd ffisegol fel ysgolion, trefi ac ardaloedd bywyd nos, yn ogystal â mannau ar-lein fel platfformau cyfryngau cymdeithasol. Gall gweithgareddau gynnwys:

  • Cynlluniau diogelwch bywyd nos
  • Rhannu gwybodaeth er mwyn mynd i’r afael â thrais
  • Hyfforddiant diogelwch ar-lein
  • Plismona mannau problemus

Ysgolion ac addysg

Mae gan leoliadau addysg ran hanfodol i’w chwarae mewn atal trais. Dyma leoedd lle mae plant a phobl ifanc yn dysgu normau cymdeithasol, yn datblygu ymdeimlad o berthyn ac yn caffael gwybodaeth, sgiliau a phrofiad. Mae ymgysylltiad addysgol hefyd yn ffactor amddiffynnol pwysig wrth atal trais yn ystod plentyndod, yn ystod llencyndod a thrwy gydol oes rhywun. Gallai rhaglenni gynnwys:

  • Gwersi a gweithgareddau atal trais mewn perthynas
  • Dulliau ysgol gyfan/lleoliad cyfan
  • Hyfforddiant mewn sefyllfaoedd niweidiol

Lleihau tlodi ac anghydraddoldeb

Er y gall trais ddigwydd i unrhyw un, mae ei effeithiau andwyol fwyaf difrifol mewn cymunedau â lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol. Gall anghydraddoldebau cymdeithasol eraill sy’n ymwneud ag ethnigrwydd, rhywioldeb, oedran, anabledd a rhywedd hefyd gynyddu’r tebygolrwydd y bydd trais yn digwydd. Mae lleihau tlodi ac anghydraddoldeb yn flociau adeiladu sylfaenol wrth atal trais a gwella diogelwch. Gallai polisïau a rhaglenni gynnwys:

  • Gwella cyfleoedd arweinyddiaeth, gan gynnwys cyfranogiad gwleidyddol, i blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai o grwpiau a ymyleiddiwyd
  • Gwella diogelwch a sefydlogrwydd economaidd
  • Prif ffrydio rhywedd a chyllidebu rhywedd

Dylai pob rhaglen gynnwys cymunedau fel arweinwyr wrth gynllunio, datblygu a gweithredu, a darparu cyfleoedd i gysylltu â hunaniaethau diwylliannol a chymunedol er mwyn meithrin ymdeimlad o berthyn.

Polisi a deddfwriaeth

Er na all cyfreithiau ar eu pen eu hunain leihau trais, mae eu gweithredu a’u gorfodi’n effeithiol yn cryfhau pob strategaeth i atal trais. Mae fframwaith deddfwriaethol a pholisi cadarn yn gosod y sylfaen i atal trais ac yn darparu strwythur ar gyfer amddiffyn dioddefwyr, tystion a phlant. Dyma rai enghreifftiau:

  • cryfhau systemau a gwaith cydlynu ar gyfer amddiffyn, ymateb a chymorth drwy fandadau, safonau, gweithdrefnau a mecanweithiau atebolrwydd
  • gwella cyllid ar gyfer atal a chyfrifoldeb partneriaid i weithredu i atal trais trwy waith amlasiantaethol
  • sefydlu llwybrau at gyfiawnder teg, tryloyw a chyfeillgar i blant ar gyfer pob plentyn

Normau a gwerthoedd cymdeithasol

Mae gwerthoedd unigolyn yn cael eu dylanwadu gan ei deulu, ei grŵp cymheiriaid, ei gymuned a’i gymdeithas.
Mae ymdrechion i hyrwyddo normau a gwerthoedd cymdeithasol cadarnhaol – ac i leihau effaith rhai niweidiol – yn offeryn hanfodol ar gyfer atal trais. Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar gryfhau normau a gwerthoedd cymdeithasol sy’n cefnogi perthnasoedd di-drais, parchus, meithringar, cadarnhaol a chyfartal ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Gallai rhaglenni gynnwys:

  • Hyfforddiant mewn sefyllfaoedd niweidiol
    Ymgyrchoedd marchnata cymdeithasol

Sut datblygwyd Cymru Heb Drais?

Ac yntau wedi’i lywio gan safbwyntiau a phrofiadau dros 1,000 o bobl yng Nghymru, mae fframwaith Cymru Heb Drais wedi’i gynllunio’n ganllaw i atal trais sydd wedi’i seilio ar dystiolaeth ac yn adleisio lleisiau cymunedau. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth ac wedi’i gydgynhyrchu, gan ddefnyddio tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio i atal trais ymhlith plant a phobl ifanc, ac arferion da byd-eang.

Mae’r amrywiaeth o leisiau a oedd yn rhan o waith llunio’r Fframwaith hwn yn dangos bod yn rhaid i waith atal trais ymhlith plant a phobl ifanc fod yn ymdrech ar y cyd – ni all unrhyw sector na sefydliad unigol ddatrys y broblem hon ar ei ben ei hun.

Yn y llawlyfr, gallwch ddod o hyd i adnoddau pellach, fideos a theori newid.

Bydd y blog nesaf yn y gyfres hon yn archwilio heriau atal trais

Erthyglau eraill

Gweld popeth