Lawrlwythwch y llawlyfr

Mae ymchwil newydd yn tynnu sylw at yr angen am ddulliau system gyfan, wedi’u llywio gan drawma ag atal trais

Mae ymchwil gan y Tîm Atal Trais sy’n archwilio dulliau atal trais ledled Cymru wedi’i chyhoeddi yn y Journal of Public Health. Mae’r ymchwil yn atgyfnerthu’r sail dystiolaeth dros ddefnyddio dulliau system gyfan, sy’n ystyriol o drawma i atal trais.

Mae’r cyhoeddiad yn tynnu ar y Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais yn ogystal â’r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Mae’n dod â chydnabyddiaeth ryngwladol i’r gwaith arloesol sy’n digwydd yng Nghymru ac yn cryfhau’r sylfaen dystiolaeth drwy gyfleu gwybodaeth gan ymarferwyr ynghylch yr hyn sy’n gweithio wrth ymgysylltu â dynion a bechgyn. Mae’r ymchwil yn rhoi cipolwg unigryw ar raglenni atal trais sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â dynion a bechgyn o fewn cyd-destun polisi nodedig Cymru. Mae’r erthygl yn amlinellu’r cyfleoedd ar gyfer atal trais yn effeithiol trwy ddulliau system gyfan sy’n mynd i’r afael â phenderfynyddion strwythurol ochr yn ochr ag ymddygiadau unigol.

Symud y Tu Hwnt i Ymyriadau Unigol

Mae’r ymchwil yn dangos, er bod rhai rhaglenni unigol yn dangos elfennau addawol o ymarfer seiliedig ar gryfderau sy’n ystyriol o drawma, mae atal trais cynaliadwy yn gofyn am gamau cydlynol sy’n mynd i’r afael â gyrwyr strwythurol trais. Dengys y dystiolaeth bod canolbwyntio ar newid ymddygiad unigol yn unig, yn hytrach na herio systemau ehangach yn cyfyngu ar y potensial am effaith barhaol. Rhaid i atal effeithiol ymgysylltu â dulliau gweithredu ar lefel y gymuned a chymdeithas, yn cynnwys deddfwriaeth, normau cymdeithasol, a ffactorau amgylcheddol, fel yr amlinellir yn fframwaith Cymru Heb Drais.

Deall Trais Cydgysylltiedig

Mae tystiolaeth yn dangos bod normau rhywedd niweidiol sy’n cymdeithasoli dynion i werthfawrogi hierarchaeth, ymddygiad ymosodol, ac atal emosiynau yn achosion anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig â rhywedd mewn trais. Mae bechgyn a dynion ifanc yn aml yn ddioddefwyr trais a thrawma ar sail rhywedd, sy’n llywio pa mor agored i drais a dioddefaint ydynt yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae’r ymchwil yn tynnu sylw at fframwaith ‘triawd trais’ Kaufman, sy’n nodi natur gydgysylltiedig trais dynion yn erbyn menywod, trais dynion yn erbyn dynion a bechgyn eraill, a thrais yn erbyn eu hunain. Mae’r ddealltwriaeth hon yn dangos pam y gall strategaethau atal cynhwysfawr sy’n mynd i’r afael â sawl math o drais ar yr un pryd fod yn fwy effeithiol na thrin gwahanol fathau o drais ar eu pen eu hunain.

Mae’r ddealltwriaeth gydgysylltiedig hon hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd osgoi seilos polisi. Fel y mae Burrell a Westmarland yn ei nodi yn eu pecyn cymorth ar ymgysylltu dynion a bechgyn wrth atal trais, mae atal effeithiol yn gofyn am wneud cysylltiadau rhwng trais yn erbyn menywod a materion polisi eraill sy’n seiliedig ar rywedd, megis trais ymhlith plant a phobl ifanc a throseddau cyllyll, lle mae dynameg rhywedd yn chwarae rhan ganolog. Gallai’r dull hwn ddod ag asiantaethau a sefydliadau ynghyd i fynd i’r afael â’r materion hyn ar yr un pryd drwy ddulliau cydlynol.

Pwysigrwydd Ymarfer sy’n Ystyriol o Drawma

Mae’r astudiaeth yn tynnu sylw at y ffaith bod dynion yn llawer mwy tebygol o gyflawni pob math o drais rhyngbersonol. Dengys ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) bod 90% o’r rhai a gyflawnodd lladdiadau domestig rhwng 2019 a 2022 yn wrywod. Fodd bynnag, mae’r ymchwil hefyd yn pwysleisio bod llawer o ddynion a bechgyn wedi profi trais a thrawma eu hunain, sy’n golygu bod angen dulliau tosturiol, sy’n ystyriol o drawma, yn hytrach nag ymyriadau sy’n seiliedig ar feio.

Mae’r ymchwil yn nodi bod dulliau sy’n ystyriol o drawma yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu’n effeithiol ag atal trais. Pwysleisiodd ymarferwyr bwysigrwydd creu amgylcheddau diogel yn gorfforol ac yn emosiynol, defnyddio iaith gadarnhaol a grymusol, a dilysu profiadau cyfranogwyr yn hytrach na defnyddio dulliau sy’n beio neu gyhuddo.

Mae ymarfer sy’n ystyriol o drawma yn cydnabod bod gan lawer o gyfranogwyr brofiadau cymhleth yn cynnwys heriau iechyd meddwl, defnyddio sylweddau, anawsterau ariannol, neu ddigartrefedd, sy’n gofyn am gymorth holistaidd wedi’i theilwra i amgylchiadau unigol.

Sicrhau Darpariaeth Gyson Ledled Cymru

Mae canfyddiadau o ymchwil fel rhan o ddatblygu’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn yn dangos anghydraddoldebau daearyddol o ran darpariaeth rhaglenni. Mae’r rhan fwyaf o ymyriadau wedi’u canoli yn Ne Cymru, sy’n creu mynediad anghyson ledled y wlad. Fodd bynnag, mae’r erthygl yn tynnu sylw at ddatblygiadau addawol sy’n dangos bod newid systemig ar y gweill. Mae rhaglen Arwain y Newid Llywodraeth Cymru (2024-2026) sy’n cynnig hyfforddiant am ddim ar sut i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol ac ymgyrchoedd fel Iawn yn dangos ymrwymiad cynyddol i ddulliau cydlynol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth ledled y wlad.

Cyd-destun Deddfwriaethol a Phartneriaeth Cefnogol Cymru

Mae Cymru’n elwa o fframweithiau polisi nodedig sy’n creu cyfleoedd ar gyfer dulliau atal trais integredig. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn darparu sylfeini deddfwriaethol ar gyfer cydlynu amlasiantaethol hirdymor.

Mae Fframwaith Cymru Heb Drais a Fframwaith Ymarfer Cymru sy’n Ystyriol o Drawma yn cyd-fynd â’r pwyslais y mae ymarferwyr yn eu rhoi ar ddulliau cydlynol, sy’n ystyriol o drawma, a nodwyd yn yr ymchwil. Gallai’r fframweithiau hyn, ynghyd â phartneriaethau amlasiantaeth, fel y Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a’r partneriaethau Dyletswydd Trais Difrifol, osod Cymru mewn sefyllfa dda i arwain y gwaith o ymgysylltu dynion a bechgyn wrth atal trais.

Dulliau System Gyfan

Mae’r ymchwil yn dod i’r casgliad bod gwireddu potensial llawn ymgysylltu dynion a bechgyn wrth atal trais yn gofyn am symud y tu hwnt i newid ymddygiad unigol tuag at ddulliau system gyfan sy’n mynd i’r afael â gyrwyr strwythurol trais ar sail rhywedd. Mae hyn yn gofyn am gamau cydlynol ar draws sawl lefel: unigol, cymunedol, sefydliadol a strwythurol. Gall arweinyddiaeth system gyfan gefnogi’r trawsnewidiad hwn drwy sicrhau bod mentrau’n gyson, yn hygyrch, wedi’u cyd-gynllunio, a’u cydlynu ar draws sectorau, gan symud o ddarpariaeth dameidiog tuag at raglenni strategol, ar sail tystiolaeth, sy’n sicrhau newid cynaliadwy ar raddfa fawr.

Cefnogi Datblygu Ymarfer

Mae’r ymchwil yn adeiladu ar adnoddau presennol ar gyfer ymarferwyr, yn cynnwys y pecyn cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais a gyhoeddwyd fel adnodd gan Cymru Heb Drais yn 2024. Mae’r pecyn cymorth yn darparu canllawiau ymarferol ar gyfer datblygu ymyriadau effeithiol.

Mae cyhoeddi’r ymchwil hon mewn cyfnodolyn wedi’i adolygu gan gymheiriaid yn dilysu dulliau ystyriol o drawma sy’n seiliedig ar gryfderau, ac yn pwysleisio’r angen am gydlynu a gwerthuso strategol i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer atal trais yn effeithiol.

Mae’r erthygl ymchwil lawn sy’n dwyn y teitl “From individual interventions to structural change:Why public health leadership is needed to engage men and boys in violence prevention” gan L. C. Snowdon, A. Walker, E. R. Barton, B. Parry, ac S. Pike wedi’i chyhoeddi yn y Journal of Public Health. Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl [Science Direct]

Gallwch gyrchu’r Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn i Atal Trais ac adnoddau eraill yn https://cymruhebdrais.com/adnoddau/

Erthyglau eraill

Gweld popeth