Lawrlwythwch y llawlyfr

Prosiect ymgysylltu addysg ddewisol yn y cartref – Caerau a Threlái

Mae Prosiect Ymgysylltu Addysg nctid Caerdydd yn cefnogi plant sy'n cael addysg ddewisol yn y cartref a'u teuluoedd i gael gafael ar gymorth, cyngor ac arweiniad i atal achosion o gamfanteisio a materion diogelwch a llesiant eraill.

  • Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt
  • Amgylcheddau cymunedol diogel Amgylcheddau cymunedol diogel

Mae Prosiect Ymgysylltu Addysg Ddewisol yn y Cartref a ariennir gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ac a ddarperir mewn partneriaeth gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Heddlu De Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd, Caroline Davies, Canolfan Blant Caerau a Threlái a’r Tîm Diogelwch Cymunedol, yn cefnogi plant sy’n cael addysg ddewisol yn y cartref a’u teuluoedd i gael gafael ar gymorth, cyngor ac arweiniad i atal achosion o gamfanteisio a materion diogelwch a llesiant eraill.

Diben y Prosiect

Cydnabu’r prosiect nad oedd plant a phobl ifanc a oedd mewn amgylcheddau addysg yn y cartref yn dysgu am y pynciau yn seiliedig ar faterion y byddai’r cwricwlwm Addysg Bersonol, Cymdeithasol ac Iechyd yn ymdrin â nhw, ac a oedd, felly, yn fwy agored i faterion yn ymwneud â thrais, camfanteisio a phryderon diogelwch eraill yn eu cymuned. Felly, aeth y bartneriaeth amlasiantaeth ati i ddylunio a phrofi prosiect peilot naw wythnos o hyd, ar ddechrau 2024, a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi plant a phobl ifanc sy’n cael addysg yn y cartref ym Mlwyddyn 5 i Flwyddyn 11 a’u teuluoedd i gael gafael ar wybodaeth a chanllawiau ar y materion hyn.

Y Prosiect Peilot:

Cymerodd saith teulu ran yn y prosiect peilot a chawsant gyfle i rannu safbwyntiau am yr hyn y byddai’r sesiynau dwy awr wythnosol yn ei gynnwys. Bob wythnos, byddai’r teuluoedd yn cymryd rhan mewn sesiwn ryngweithio ar wahanol bynciau a ddyluniwyd i rannu gwybodaeth hanfodol â phlant a’u teuluoedd i’w amddiffyn eu diogelwch a gwella eu llesiant. Roedd y pynciau’n cynnwys pethau fel diogelwch tân, seiberdroseddu, imiwneiddiadau, bwyta’n iach a chyfleoedd cyflogaeth. Cafodd sesiynau ar y pynciau hyn eu cynnal gan arbenigwyr pwnc o sefydliadau gwahanol, a chynhaliwyd gweithgareddau fel coginio, celf a chrefft, a gwneud ffilm yn dilyn hynny. Yn ychwanegol at y sesiynau bob dwy awr, rhoddwyd y cyfle i’r cyfranogwyr gael sesiynau mentora un i un gyda mentoriaid pobl ifanc.

Roedd y sesiynau hefyd yn rhoi’r cyfle i deuluoedd gymdeithasu, rhannu profiadau a meithrin cydberthnasau. O ganlyniad i’r prosiect peilot, dewisodd pedwar person ifanc barhau â’u sesiynau mentora pobl ifanc. Mae un person ifanc bellach yn cymryd rhan mewn hyfforddiant sgiliau digidol gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ac mae un o’r dysgwyr ifanc yn dychwelyd i’r ysgol. I deuluoedd, mae adborth yn dangos bod y rhaglen wedi rhoi’r cyfle iddynt gefnogi ei gilydd ar daith addysg yn y cartref. Mae teuluoedd a gymerodd ran yn y prosiect peilot wedi cyd-ddylunio sesiynau ar gyfer y cam nesaf, ac mae rhai o’r rhieni/gofalwyr wedi cynnal y sesiynau.

Y Cam Nesaf:

Yn dilyn y prosiect peilot llwyddiannus, bydd cam nesaf y Rhaglen yn cael ei ddarparu am chwe mis rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025.

Straeon eraill

Gweld popeth
  • Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt Cysylltiad â gweithgareddau diogel ac oedolion y gellir ymddiried ynddynt
  • Ysgolion ac addysg Ysgolion ac addysg

Grŵp Bechgyn YMCA Caerdydd

Caniatáu i fechgyn a dynion ifanc gael lle diogel i herio'r normau a'r naratifau sy'n cael effaith ar eu bywydau.

Gweld Stori
  • Normau a gwerthoedd cymdeithasol Normau a gwerthoedd cymdeithasol

SafeToSay – Grymuso Gwylwyr yn erbyn Aflonyddu

Mae #SafeToSay yn ymgyrch a ddatblygwyd gan Uned Atal Trais Cymru, mewn partneriaeth â’r Ymgyrch Noson Allan Dda, sydd â’r nod o wneud bywyd nos yn fwy diogel drwy annog pobl i sefyll yn erbyn aflonyddu rhywiol yn ne Cymru.

Gweld Stori