Lawrlwythwch y llawlyfr

Ffeithlun

Mae ffeithlun yn tynnu sylw at y camau allweddol y mae angen i Gymru eu cymryd ar gyfer dull cyfunol a chydlynol o ddod â thrais ymhlith plant a phobl ifanc i ben.

Mae’r ffeithlun yn dangos sut mae’r naw strategaeth atal trais sydd wedi’u cynnwys yn y Fframwaith yn galluogi ymateb system gyfan i atal trais. Mae hyn wedi’i gefnogi gan y naw egwyddor atal trais a ddylai lywio darpariaeth a chynnwys pob strategaeth. Gyda’i gilydd, mae’r strategaethau a’r egwyddorion yn sicrhau y gellir blaenoriaethu atal sylfaenol ac ymyrraeth gynnar ar lefel unigol, gymunedol a chymdeithasol a bod gweithgaredd atal trais yn cael ei gydlynu a’i alinio ag arferion a dulliau allweddol. Mae hyn yn cynnwys gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, cynnal Hawliau Plant a sicrhau dull sy’n ystyriol o drawma.

Cliciwch yma i lawrlwytho'r ffeithlun (PDF)