Lawrlwythwch y llawlyfr

Gwerthuso Effaith y Fframwaith

Mae gwerthuso yn hanfodol i weithredu dull iechyd y cyhoedd.

Mae’n ein galluogi i ddeall effaith gweithgaredd, gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol fel y gallwn ddysgu sut i wella rhaglenni a gweithgaredd ac adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio.

Asesiad Gwerthusadwyedd Cymru Heb Drais

Yn 2024, comisiynwyd DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd gan Uned Atal Trais Cymru, gan gynnwys Tîm Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gynnal asesiad gwerthusadwyedd o Fframwaith Cymru Heb Drais. Nod yr asesiad hwn oedd deall a oedd y Fframwaith yn barod ar gyfer gwerthusiad llawn ac, os felly, y mathau o gwestiynau y byddai gwerthusiad yn gallu eu hateb.

Gall asesiadau gwerthusadwyedd fod yn ffordd ddefnyddiol a chost-effeithiol o baratoi rhaglenni neu weithgareddau ar gyfer gwerthuso drwy nodi rhanddeiliaid allweddol i gymryd rhan yn y gwerthusiad a sefydlu yr hyn sydd angen bod ar waith neu yr hyn sydd angen ei wella o fewn y rhaglen neu’r gweithgaredd i gefnogi mesur ar gyfer gwerthuso.

Archwiliodd yr asesiad pa ddata sydd ar gael i gefnogi gwerthuso, ymgysylltodd â rhanddeiliaid i ddysgu sut maen nhw’n defnyddio’r Fframwaith, a cheisio deall pa effaith y mae datblygu a gweithredu’r Fframwaith yn ei chael hyd yn hyn.

Canfyddiadau allweddol

Drwy gyfweliadau â rhanddeiliaid a thîm y rhaglen, yn ogystal ag archwiliad o ffynonellau sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith, (e.e. adroddiadau, gweminarau) canfu’r asesiad y canlynol:

  • Disgrifiwyd y Fframwaith gan rai rhanddeiliaid fel adnodd defnyddiol a allai fod yn sylfaen ar gyfer ymarfer, sy’n cynnig cyfeiriad strategol ar gyfer gwaith atal trais yng Nghymru.
  • Ystyriwyd bod y Fframwaith yn addas ar gyfer gwaith gyda phob poblogaeth o bobl ifanc gan gynnwys y rhai yr ystyrir eu bod mewn perygl neu fwyaf agored i drais.
  • Mae ansicrwydd ynghylch y mecanweithiau cyflawni a mecanweithiau newid ar gyfer y Fframwaith a deimlir gan randdeiliaid a’r tîm ymchwil, ac mae angen eglurhad pellach ynghylch yr hyn sydd ei angen i sicrhau newid. Mae ansicrwydd hefyd yn bodoli ynghylch diffiniad o’r cysyniadau, yr egwyddorion a’r strategaethau yn y Fframwaith a’u cymhwyso.
  • Tynnodd rhanddeiliaid sylw at yr heriau sy’n gysylltiedig â dangos tystiolaeth o newid ac effaith sy’n gysylltiedig â’r Fframwaith a Fframweithiau yn gyffredinol.
  • Mae cyllid tymor hwy a chefnogaeth gan bolisi a llywodraeth yn hanfodol, a dylai’r tîm ymchwil sicrhau y gall y Fframwaith gyd-fynd â gofynion deddfwriaethol a statudol eraill.
  • Yn fwy cyffredinol, mae strwythurau partneriaeth presennol sydd wedi’u hen sefydlu a pharodrwydd asiantaethau i ymgysylltu mewn partneriaethau yn cefnogi amcanion y Fframwaith. Fodd bynnag, mae heriau i’r gweithrediad hefyd, gan gynnwys hinsawdd wleidyddol ac ariannol anrhagweladwy ac ansefydlog a chapasiti staff cyfyngedig.

More generally, well established existing partnership structures and agencies’ willingness to engage in partnerships supports the aims of the Framework. However, there are challenges to implementation too, including an unpredictable and unstable political and financial climate and limited staff capacity.

Dysgu rhagor

Lawrlwythwch y crynodeb gweithredol yma

Pecyn Cymorth Gwerthuso Atal Trais

Mewn cydweithrediad â Sefydliad Iechyd y Cyhoedd Prifysgol John Moores Lerpwl, mae Tîm Atal Trais Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu pecyn cymorth gwerthuso sy’n cynnwys gwybodaeth ac adnoddau ar gyfer gwerthuso rhaglenni a gweithgareddau atal trais.

Mae’r pecyn cymorth ar gyfer darparwyr gwasanaethau ymyrraeth ac arweinwyr rhaglenni yng Nghymru ac yn ehangach, i gefnogi ein partneriaid i werthuso eu gwasanaethau’n iawn er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl.

Lawrlwythwch y Rhestr wirio gwerthuso yma (Word)

Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth yma (PDF)